Cwpan y Byd Pêl-droed
Cwpan y Byd FIFA, sydd yn cael ei hadnabod fel Cwpan y Byd, yw prif gystadleuaeth rhyngwladol y byd pêl-droed i ddynion. Rheolir y gystadleuaeth gan Fédération Internationale de Football Association (FIFA), corff llywodraethol y byd pêl-droed ac fe'i cynhelir bob pedair blynedd ers y gystadleuaeth gyntaf ym 1930 heblaw am 1942 a 1946 pan gafodd y bencampwriaeth ei gohirio oherwydd Yr Ail Ryfel Byd.
Enghraifft o'r canlynol | cystadleuaeth pêl-droed i dimau cenedlaethol, rhyngwladol, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | pencampwriaeth y byd, cystadleuaeth bêl-droed |
Label brodorol | FIFA World Cup |
Dechrau/Sefydlu | 1930 |
Enw brodorol | FIFA World Cup |
Gwefan | https://www.fifa.com/tournaments/mens/worldcup |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae 17 o wledydd gwahanol wedi cynnal Cwpan y Byd gyda'r Almaen Brasil, Yr Eidal, Ffrainc a Mecsico wedi cynnal y gystadleuaeth ar ddau achlysur tra bod Yr Ariannin, Chile, De Affrica, Lloegr, Rwsia, Sbaen, Sweden, Y Swistir, Unol Daleithiau America ac Wrwgwái wedi cynnal y gystadleuaeth unwaith a chynhaliodd De Corea a Siapan y gystadleuaeth ar y cyd.
Mae wyth o wledydd gwahanol wedi ennill y bencampwriaeth. Brasil sydd â'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl ennill y bencampwriaeth ar bum achlysur a hefyd Brasil yw'r unig wlad sydd wedi ymddangos ym mhob cystadleuaeth ers 1930. Mae'r Almaen a'r Eidal wedi ennill y gystadleuaeth ar bedwar achlysur, Yr Ariannin ac Wrwgwái ddwywaith gyda Ffrainc, Lloegr a Sbaen wedi ennill un bencampwriaeth yr un.
Canlyniadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "1930 FIFA World Cup". FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-26. Cyrchwyd 5 Mawrth 2009.
- ↑ 2.0 2.1 "1950 FIFA World Cup". FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-03. Cyrchwyd 5 Mawrth 2009.
- ↑ "FIFA World Cup Finals since 1930" (PDF). FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-05-03. Cyrchwyd 5 Mawrth 2009.
- Nodiadau
- ↑ Nid oedd gêm am y drydedd safle yn 1930, er fod FIFA bellach yn derbyn mai UDA a ddaeth yn drydydd a Yugoslavia yn bedwerydd.[1]
- ↑ Tynnodd Awstria o'r gystadleuaeth Anschluss y Rhyfel gyda'r Almaen. Ymunodd rhai o dîm Awstria gyda'r Almaen.
- ↑ 3.0 3.1 Nid oedd rownd derfynol swyddogol yn 1950.[2] Chwaraewyd gemau unigol yn y gwledydd unigol: Wrwgwái, Brasil, Sweden, a Sbaen.[3]
- ↑ 13 tim yn unig a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd FIFA yn 1950.[2]