Cwmni Masnachol Camwy

cymdeithas gydweithredol a sefydlwyd gan ymsefydlwyr Cymreig ym Mhatagonia

Cwmni cydweithredol a sefydlwyd gan yr ymfudwyr Cymreig i'r Wladfa oedd Cwmni Masnachol Camwy (Sbaeneg: Compañía Mercantil de Chubut), cyfeirir ato'n aml fel y CMC. Bu a rhan bwysig yn natblygiad y Wladfa.

Cwmni Masnachol Camwy, Trelew.

Sefydlwyd y cwmni yn 1885; hwn yn ôl pob tebyg oedd y cwmni cydweithredol cyntaf o'i fath yn yr Ariannin. Yn 1888 sefydlwyd pencadlys y cwmni yn nhref newydd Trelew. Roedd y cwmni yn gyfrifol am werthu cynnyrch y Wladfa yn Buenos Aires a thu draw.

Tua dechrau'r 20g roedd Llwyd ap Iwan, mab Michael D. Jones, yn gyfrifol am gangen Rhyd y Pysgod (Arroyo Pescado) o'r Compañía Mercantil del Chubut, tua 30 km o Esquel. Ar 29 Rhagfyr 1909, daeth dau fandit Americanaidd o'r enw Wilson ac Evans, a saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw wrth iddynt geisio dwyn arian oddi yno.

Torrodd y cwmni yn ystod y Dirwasgiad Mawr, a chollodd llawer o'r gwladfawyr symiau sylweddol o arian.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: