Esquel
Mae Esquel yn dref yn nhalaith Chubut, Ariannin, yn agos i'r ffin a Tsile. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 30,000.
![]() | |
![]() | |
Math | dinas, bwrdeistref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 36,687 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Aberystwyth ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Futaleufú Department ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 593 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 42.9°S 71.32°W ![]() |
Cod post | U9200 ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd y dref ar y 25 Chwefror 1906, fel estyniad i'r gorllewin o'r sefydliad Cymreig Colonia 16 de Octubre o gwmpas Trevelín 25 km i'r de. Mae'r llethrau oddi amgylch yn cynnig sgio da, yn enwedig La Hoya. Rhyw ddeng milltir i'r gorllewin mae'r brif fynedfa i Barc Cenedlaethol Los Alerces. Mae dau Dy Tê Cymreig yn y dref, a chapel o'r enw Capel Seion.
Mae'r tren bach La Trochita yn atyniad mawr i ymwelwyr, ac fe'i disgrifir gan Paul Theroux yn ei lyfr The Old Patagonian Express.
MeteorynGolygu
Yn dilyn ei ddarganfyddiad wrth gloddio ffynnon yn yr ardal yn 1951, mae hefyd meteoryn o'r enw Esquel. Mae darn ohonno ar ddangos yng nghasgliad meteorynnau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.