Condor yr Andes

rhywogaeth o adar
Condor yr Andes
Sw Cincinnati
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes (dadleuol)
Teulu: Cathartidae
Genws: Vultur
Linnaeus, 1758
Rhywogaeth: V. gryphus
Enw deuenwol
Vultur gryphus
Linnaeus, 1758

Aderyn ysglyfaethus anferth o Dde America yw Condor yr Andes (Vultur gryphus). Mae'n perthyn i deulu'r Cathartidae, fwlturiaid y Byd Newydd. Fe'i ceir ym mynyddoedd yr Andes yn bennaf ond mae'n cyrraedd lefel y môr yn y de.

Mae'r condor rhwng 100–122 cm o hyd a 274–310 cm ar draws yr adenydd. Mae'n pwyso 7.5–15 kg. Mae'r oedolyn yn ddu gyda phen moel cochaidd, coler wen a darn gwyn ar yr adain. Mae'r adar ifainc yn frownddu gyda choler a phen brown.

Mae'n bywdo ar anifeiliaid marw megis gwanacos a defaid. Mae'n chwilio am fwyd mewn tir agored ac mae'n defnyddio clogwyni ar gyfer cysgu a nythu. Mae'n dodwy un ŵy fel rheol sy'n deor ar ôl 54–58 o ddyddiau. Gall yr aderyn ifanc hedfan ar ôl chwe mis.

Ardaloedd lle ceir Condor yr Andes.

Cyfeiriadau golygu

  • Ferguson-Lees, James & David Christie (2001) Raptors of the World, Christopher Helm, Llundain.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.