Conor Cruise O'Brien
Gwleidydd, awdur a newyddiadurwr o Iwerddon oedd Conor Cruise O'Brien (3 Tachwedd 1917 - 18 Rhagfyr 2008).[1]
Conor Cruise O'Brien | |
---|---|
Ganwyd | 3 Tachwedd 1917 Dulyn |
Bu farw | 18 Rhagfyr 2008 Howth |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | awdur, gwleidydd, diplomydd, newyddiadurwr, llenor |
Swydd | Minister for Posts and Telegraphs, Aelod Senedd Ewrop, Teachta Dála, Teachta Dála, Seneddwr Gwyddelig |
Adnabyddus am | The Siege: The Saga of Israel and Zionism |
Plaid Wleidyddol | Plaid Lafur Iwerddon |
Mam | Kathleen Cruise O'brien |
Priod | Máire Mhac an tSaoi |
Ganed O'Brien yn Nulyn yn fab i Francis ("Frank") Cruise O'Brien a Kathleen Sheehy. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, ac yn ddiweddarach cafodd swyddi fel diplomydd. Daeth i amlygrwydd fel cynrychiolydd Dag Hammarskjöld, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig pan geisiodd talaith Katanga ymrannu oddi wrth y Congo yn 1961.
Yn etholiad 1969, etholwyd ef i Dáil Éireann fel aelod o Blaid Lafur Iwerddon. Wedi etholiad 1973, daeth yn weinidog dros y gwasanaeth post a theligraff yn llywodraeth Liam Cosgrave. Roedd yn nodedig am ei wrthwynebiad cryf i'r mudiad gweriniaethol yn Iwerddon. Rhwng 1979 a 1981, bu'n olygydd y papur newydd The Observer yn Lloegr. Yn 1996, daeth yn aelod o Blaid Undebol y Deyrnas Unedig yng Ngogledd Iwerddon; ymddiswyddodd yn ddiweddarach.
Llyfryddiaeth
golygu- Maria Cross (fel Donat O'Donnell) (1954)
- To Katanga and Back (1962)
- Albert Camus (Penguin, 1970) ISBN 9780670019021
- States of Ireland (1972) ISBN 978-0091131005
- The Siege: The Saga of Israel and Zionism (1986) ISBN 978-0671633103
- Passion & Cunning: Essays on Nationalism, Terrorism, and Revolution (1988)
- The Great Melody: A Thematic Biography of Edmund Burke (1992). ISBN 0-226-61651-7
- On the Eve of the Millennium (1994). ISBN 978-0887845598
- The Long Affair: Thomas Jefferson and the French Revolution, 1785-1800 (1996) ISBN 978-0712666831
- Memoir: My Life and Themes (1999) ISBN 978-1853719479
Máire a Conor Cruise O'Brien:
- A Concise History of Ireland Thames and Hudson, Llundain ISBN 0-500-45011-0 (1972).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Conor Cruise O'Brien. The Guardian (19 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2012.