Máire Mhac an tSaoi

Ysgolhaig Wyddelig a bardd yn yr iaith Wyddeleg oedd Máire Mhac an tSaoi (Saesneg: Máire MacEntee; 4 Ebrill 192216 Hydref 2021).

Máire Mhac an tSaoi
Ganwyd4 Ebrill 1922 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd, bardd, ysgrifennwr, ieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • NUI Galway Edit this on Wikidata
PriodConor Cruise O'Brien Edit this on Wikidata

Ganed hi yn Nulyn, ychydig fisoedd wedi sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Bu ei thad, Seán Mac an tSaoi, yn rhan o Wrthryfel y Pasg ym 1916, ac a fyddai'n wleidydd o blaid Fianna Fáil ac yn weinidog yn llywodraethau'r Taoisigh de Valera a Lemass. Roedd ei mam, Máiréad de Brún, yn athrawes Wyddeleg yng Ngholeg Alexandra, ysgol Brotestannaidd i ferched ar gyrion deheuol y ddinas. Treuliodd Máire gyfnodau hirion yn mhentref Dún Chaoin, Swydd Kerry, yn y Gaeltacht, gan roi iddi grap drylwyr ar yr iaith Wyddeleg. Derbyniodd radd baglor o'r dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Celtaidd o Goleg Prifysgol Dulyn.[1]

Cafodd ei recriwtio gan yr Adran Faterion Tramor ym 1947, a gweithiodd yn llysgenhadaeth Iwerddon yn Sbaen cyn iddo ymuno â'r dirprwyaeth Wyddelig i'r Cenhedloedd Unedig. Cymerodd seibiant o'i gwaith ac aeth i Ganolbarth Affrica yn ystod argyfwng y Congo yn nechrau'r 1960au i fod yng nghwmni ei chariad, y diplomydd Conor Cruise O'Brien. Cafodd ei thargedu gan y wasg Brydeinig, mewn ymdrech i ddwyn gwarth ar O'Brien ac i hyrwyddo diddordebau cwmnïau Prydeinig yn y Congo, ac o ganlyniad cafodd O'Brien ei alw yn ôl i bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd a'i ddiswyddo. Dychwelodd Máire i Ddulyn i ymddiswyddo o'r gwasanaeth diplomyddol, a phriododd â Conor Cruise O'Brien ym 1962. Aethant i Ghana wedi i O'Brien gael ei benodi'n is-ganghellor preswyl Prifysgol Ghana gan yr Arlywydd Kwame Nkrumah, ac ym 1965 i Efrog Newydd lle bu Máire yn darlithio ar lên Iwerddon.[1]

Etholwyd O'Brien i'r Dáil Éireann ym 1969 a symudodd y ddau ohonynt i Ddulyn. Mabwysiadant un mab ac un ferch, y ddau ohonynt o dras gymysg Wyddelig ac Affricanaidd, yn nechrau'r 1970au. Cafodd ei hethol yn aelod o'r Aosdána ym 1995, ond ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn dyrchafu Francis Stuart yn Saoi.[1] Cyhoeddodd ei hunangofiant, The Same Age as the State, yn 2003.

Cyfeiriadau golygu