Merched o Amlwch a'r trefi agos yn Ynys Môn oedd y Copar Ladis (neu Copr Ladis neu Copar Ledis). Eu gwaith oedd i dorri creigiau oedd wedi eu cloddio gan y mwynwyr yn ystod cyfnod y diwydiant copr yng Nghymru yn yr 19g.

Copar ladis

Hanes golygu

Plant mor ifanc â saith oedd yn cario'r creigiau atynt. Roedd tâl y gwaith yma yn rhoi fwy o arian na gweithio ar fferm, fel godro neu ladd gwair. Mi roedd gwaith y mwynfeydd yn waith caled, gydag oriau gweithio o hyd at 12 awr.

Daeth y merched a weithiai yno yn enwog yn hanes Amlwch ar Ynys Môn. Weithiau caent eu hadnabod fel y Copar Ledis, mae'r enw yn cyfeirio at y Copr ond hefyd efallai at y gair "cobber". Hollti'r mwyn ydi ystyr "cobio", y term Awstraliaidd ydi "cobber" (sy'n golygu "ffrind" a "cyfaill") yn deillio o'r diwydiant cloddio.[1]

Gweithiai'r merched yn lard Charlotte yn yr awyr agored. Roeddent yn gweithio mewn rhesi o fewn siediau pren, neu bebyll. Roeddent yn gwisgo hetiau ffelt (a gafodd y llysenw "Jim Cro" yn y 1800au), gyda sgarff wedi ei chlymu o amgylch eu pen oddi tani. Mi wnaethon nhw hyn i warchod eu cegau rhag y llwch, ac i arbed eu clustiau rhag y sŵn taro byddarol y morthwylion. Er y sŵn roeddent yn dal i fedru sgwrsio ac weithiau canu wrth weithio.

Roedd y Copar Ladis yn defnyddio morthwyl ac roedd yn pwyso pedair phwys, i hollti'r mwyn a oedd yn cael ei osod ar garreg drom a oedd yn cael ei alw yn 'carreg ddyrnu'. Wrth weithio gyda'r morthwyl yn un llaw, roedd y llaw arall yn cael ei warchod gan faneg drom, gyda'r bawd ar fysedd wedi eu cylchu a haearn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Phillip Steele, Robert Williams (2010). Y Deyrnas Gopr. Llyfrau Magma. t. 18. ISBN 9-780956-3885-1-3.