Nicholas Edwards, Barwn Crughywel
Roedd Roger Nicholas Edwards, Barwn Crucywel (25 Chwefror 1934 – 17 Mawrth 2018) yn wleidydd Ceidwadol ac yn gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.[1]
Nicholas Edwards, Barwn Crughywel | |
---|---|
Ganwyd | 25 Chwefror 1934 Llundain |
Bu farw | 17 Mawrth 2018 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol Cymru, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Ralph Edwards |
Mam | Grace Marjorie Brooke |
Priod | Ankaret Healing |
Plant | Rupert Edwards, Sophie Elizabeth Ankaret Edwards, Olivia Caroline Edwards |
Bywyd personol
golyguGanwyd Edwards yn Llundain ym 1934, yn fab i Cecil Ralph Edwards, CBE, FSA, a Marjorie Ingham Brooke, ei wraig.
Priododd Ankaret Healing ym 1963 a cawsant un mab a dwy ferch.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg San Steffan a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1957 a MA ym 1968.[2]
Gyrfa
golyguCyflawnodd ei wasanaeth cenedlaethol fel ail is-gapten ym Mataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 1952 – 1954.
Cyn dod yn Aelod Seneddol bu Edwards yn gweithio'n bennaf ym myd tansgrifeniad yswiriant. Roedd yn aelod o Lloyds, 1965–2002, yn gyfarwyddwr Cwmni Yswiriant Brandt’s 1957–76; A L Sturge Ltd, 1970–76; Brandt’s Ltd, 1974–76; Globtik Tankers Ltd, 1976–79 a P A International & Sturge Underwriting Agency Ltd, 1977–79.
Bu'n gyfarwyddwr cwmni teledu HTV o 1987 i 2002 gan wasanaethu fel cadeirydd y cwmni o 1997 i 2002. Bu'n gyfarwyddwr Associated British Ports Holdings 1988–99 ac yn is-gadeirydd Cwmni Mwyngloddio Môn 1988–2000.[2]
Gyrfa wleidyddol
golyguYn etholiad cyffredinol 1970 cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin fel aelod seneddol Ceidwadol Sir Benfro; bu'n cynrychioli'r etholaeth yn ddi-dor hyd ei ymddeoliad yn etholiad cyffredinol 1987. Rhwng 1975 a 1979 roedd yn Llefarydd yr Wrthblaid dros Faterion Cymreig (Ysgrifennydd Gwladol cysgodol Cymru). Pan ddaeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog ym 1979, penodwyd Edwards yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru; yr unig Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gynrychioli etholaeth Gymreig yn Llywodraethau Ceidwadol 1979-1997.[3]
Edwards oedd Ysgrifennydd Cymru pan benderfynodd Llywodraeth Thatcher gefnu ar eu haddewid i ddefnyddio'r 4ydd sianel deledu yng Nghymru ar gyfer gwasanaeth Cymraeg, gan ysgogi gwrthdystiadau led-led Cymru a bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio hyd angau.[4]
Wedi ymddeol o Dŷ'r Cyffredin cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Crucywel o Bont Esgob yn y Mynydd Du a Sir Powys.
Bu Edwards yn gwasanaethu ar nifer o gwangos gan gynnwys cadeirio'r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, enwyd un o brif adeiladau'r Bae yn "Dŷ Crucywel" sef man cyfarfod gwreiddiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn codi'r Senedd yn 2006.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [1]
- ↑ 2.0 2.1 CRICKHOWELL, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Nov 2014 [2] adalwyd 13 Ebrill 2015
- ↑ Lord Crickhowell Papers [3] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 13 Ebrill 2015
- ↑ Gwynfor Evans www.independent.co.uk; Archifwyd 2012-10-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 13 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Desmond Donnelly |
Aelod Seneddol Sir Benfro 1970 – 1987 |
Olynydd: Nicholas Bennett |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: John Morris |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru (5 Mai 1979 - 13 Mehefin 1987) |
Olynydd: Peter Walker |