Cors Caron
Cors yng nghanolbarth Ceredigion yw Cors Caron, hefyd Cors Goch Glan Teifi. Saif ar lan Afon Teifi ychydig i'r gogledd o dref Tregaron, wedi ei rhannu rhwng cymunedau Tregaron ac Ystradmeurig.
Math | ardal gadwriaethol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 861.99 ha |
Cyfesurynnau | 52.2347°N 3.948°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae'n un o'r ddwy gyforgors fwyaf yng Nghymru; Cors Fochno yw'r llall. Llunir cyforgorsydd mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen. Ceir tair cromen fel hyn yng Nghors Caron, gydag Afon Teifi yn llifo rhyngddynt.
Ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, ffurfiwyd llyn yma, ac wedi i'r argae naturiol oedd yn dal y dŵr gael ei fylchu, troes yn gors a dechreuodd mawn ffurfio. Ar un adeg roedd y trigolion lleol yn torri mawn o'r gors ar gyfer tanwydd.
Mae'r gors, sydd tua 800ha o arwynebedd, yn warchodfa natur. Ganed James Kitchener Davies gerllaw'r gors.
-
Y llwybr pren trwy ganol Cors Caron
-
Fideo (isdeitlau Cymrae) ar adfer y corsydd
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Cors Caron ar wefan Comisiwn Cefngwlad Cymru Archifwyd 2008-12-05 yn y Peiriant Wayback