Corwynt mawr a dinistriol a fesurai Categori 4 ar raddfa Saffir–Simpson oedd Corwynt Ian a darodd Ciwba a de-ddwyrain Unol Daleithiau America, yn bennaf taleithiau Fflorida a De Carolina, yn ystod tymor stormydd trofannol yr Iwerydd yn 2022. Hwn oedd y corwynt i achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau yn Fflorida ers Corwynt Gŵyl Lafur ym 1935.[1]

Corwynt Ian
Corwynt Ian ar 28 Medi 2022.
Enghraifft o'r canlynolCategory 5 hurricane Edit this on Wikidata
Lladdwyd84 Edit this on Wikidata
Rhan o2022 Atlantic hurricane season Edit this on Wikidata
Dechreuwyd23 Medi 2022 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1 Hydref 2022 Edit this on Wikidata
GwladwriaethCiwba, Unol Daleithiau America, Y Bahamas, y Deyrnas Unedig, Yr Iseldiroedd, Jamaica, Trinidad a Thobago, Feneswela, Colombia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tarddodd Corwynt Ian o don drofannol a symudodd o arfordir Gorllewin Affrica ar draws canolbarth Cefnfor yr Iwerydd tuag at Ynysoedd y Gwynt. Aeth y don i mewn i Fôr y Caribî ar 21 Medi 2022, gan ddod â gwyntoedd cryf a glaw trwm i Drinidad a Thobago, Ynysoedd ABC, ac arfordir Feneswela a Cholombia.[2][3][4] Trodd yn storm bwysedd isel ar fore 23 Medi, a thrannoeth datblygodd ar ffurf storm drofannol, a enwid "Ian", wrth iddi neshau at Jamaica. Ymhen 24 awr, cryfhaodd yn sylweddol i Gategori 3 ar raddfa gorwyntoedd Saffir–Simpson, gan fwrw'r tir yng ngorllewin Ciwba. Achoswyd llifogydd a thoriadau trydan gan law'r corwynt, yn enwedig yn nhalaith Pinar del Río. Collodd Corwynt Ian dim ond ychydig o'i gryfder wrth groesi'r ynys, ac atgyfnerthodd wrth deithio dros dde-ddwyrain Gwlff Mecsico. Daeth Ian yn gorwynt Categori 4 ar 28 Medi 2022 wrth iddo symud tua arfordir gorllewinol Fflorida, a daeth i daro Ynys Cayo Costa ar anterth ei gryfder bron. Corwynt Ian yw un o'r rhai sydd yn dal safle 5 ar y rhestr o'r stormydd cryfaf i daro'r 48 o daleithiau'r Unol Daleithiau sydd yn cydffinio.[5] Wrth groesi gorynys Fflorida, gwanychodd y storm i statws storm drofannol cyn cyrraedd y môr unwaith eto a dychwelyd i statws corwynt, cyn symud dros Dde Carolina a chwalu.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Finch, Allison (3 Hydref 2022). "Florida faces grim reality: Hurricane Ian is deadliest storm in state since 1935". AccuWeather. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2022. Cyrchwyd 4 Hydref 2022.
  2. "T&T sees flooding, roofs blown off". Trinidad Express Newspapers (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2022. Cyrchwyd 25 Medi 2022.
  3. Douglas, Sean (23 Medi 2022). "Weather system passes over Trinidad and Tobago – Flooding, fallen trees, damage to homes". Trinidad and Tobago Newsday (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2022. Cyrchwyd 25 Medi 2022.
  4. Masters, Jeff; Henson, Bob (September 22, 2022). "Cat 4 Fiona steams toward Canada; Caribbean disturbance 98L a major concern". New Haven, Connecticut: Yale Climate Connections. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2022. Cyrchwyd 22 Medi 2022.
  5. Masters, Jeff; Henson, Bob (28 Medi 2022). "Ian smashes into southwest Florida with historic force". Yale Climate Connections (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2022. Cyrchwyd 29 Medi 2022.