Cosaciaid y Don

Llu o Gosaciaid a drigai yn y rhanbarthau ar hyd ganol a de Afon Don yn Ne Rwsia oedd Cosaciaid y Don. Y brif garfan o Gosaciaid Rwsiaidd oeddynt, a byddent yn esgor ar sawl llu arall, gan gynnwys Cosaciaid y Volga, Cosaciaid yr Yaik, a Chosaciaid y Terek.

Bu presenoldeb y Cosaciaid cynnar yn yr 16g yn achosi gwrthdaro rhwng chaniaethau Tataraidd y Crimea a Kazan, Llu'r Nogai, a Tsaraeth Rwsia. Er i'r Tsar Ifan IV eu diarddel a'u condemnio, fe a anosai'r Cosaciaid i ymdreiddio i'r de-ddwyrain. Ym 1570, yn ystod y rhyfel rhwng y tsaraeth a Chaniaeth y Crimea, apeliodd Ifan yn gyhoeddus at y Cosaciaid Rwseg, Cristnogol i uno er mwyn gwrthsefyll y Tatariaid Kipchak, Mwslimaidd, a noddodd benaduriaid milwrol i'w harwain. Ymgyfunodd nifer o'r mân-luoedd Cosacaidd yn rhanbarth y Don dan yr arweinyddiaeth newydd, er mwyn elwa ar yr arian a nwyddau a gynigwyd gan y Rwsiaid, a chaiff 1570 felly ei ystyried yn flwyddyn enedigol Llu Cosaciaid y Don.[1]

Er i ethnogenesis Cosaciaid y Don ddibynnu ar eu gwasanaeth yn erbyn y Tatariaid, a'u cysylltiadau â'r Rwsiaid, cafodd etifeddiaeth Dataraidd y Cosaciaid cynnar ddylanwad mawr ar eu cymdeithas a'u diwylliant. Benthycwyd nifer o eiriau Tatareg i'w dafodiaith Rwseg, gan gynnwys ataman (penadur) a yassak (arian teyrnged), a mabwysiadant wisg Dataraidd a'r faner gynffon ceffyl a ddefnyddiwyd fel symbol o awdurdod gan y Tatariaid.[2] Daeth arferion a chyfraith Cosaciaid y Don yn gyffredin i'r mwyafrif o Gosaciaid Rwseg, ac hefyd i nifer o'r Cosaciaid Wcreineg i'r gorllewin.

Yn sgil cytundeb Cosaciaid y Don i uno a brwydro dros Ifan IV am dâl, symudasant o'u canolfan yn Razdorskaya tua'r de i'w prifddinas newydd yn Cherkassk.[3] Nid oedd modd i deuluoedd Cosacaidd dreulio'r holl aeaf ar y stepdiroedd agored, ac o'r herwydd codwyd gwersylloedd caerog o'r enw stanitsi (heidiau) ar lannau'r afonydd er mwyn bwrw'r gaeaf, ac yn pysgota am eu bwyd. Byddai rhai ohonynt yn cludo eu cychod ar draws y culdir, deugain milltir ei led, rhwng y Don a'r Volga. Hwyliasant i lawr y Volga i Fôr Caspia, ac i fyny Afon Yaik. Trodd ambell griw at fôr-ladrad, gan ysbeilio'r aneddiadau Tataraidd a Thyrcig o amgylch Môr Caspia a'r Môr Du.[2]

Arweiniwyd pob un stanitsa gan ataman a etholwyd gan gylch o'r enw krug, a phob un dyn Cosacaidd yn meddu ar yr hawl i fynychu ac annerch krug ei stanitsa. Yn wleidyddol, nodweddwyd cymdeithasau Cosaciaid y Don gan drefn ddemocrataidd (i ddynion) a chymydol a chyfraith awdurdodaidd a orfodwyd ar bobloedd eraill yn y diriogaeth Gosacaidd. Perchnogwyd ar y tir yn gyffredin, ac nid oedd gan y Cosaciaid cynnar yr hawl unigol i eiddo preifat. O ran yr economi, manteisiodd y Cosaciaid ar yr helfilod, pysgod, porfeydd, ac adnoddau eraill a oedd yn helaeth ym masn y Don a'r stepdiroedd, ac felly ni châi masnach ei datblygu yn yr ardal. Mewnforiwyd grawn yn rhan o gymorthdaliadau'r Tsar Ifan IV i'r Cosaciaid, ac felly am gyfnod gwaharddwyd pob ffurf ar amaeth ymhlith Cosaciaid y Don. Fodd bynnag, datblygwyd y pantiau heli yn neheudir y Don er mwyn casglu halen i gadw pysgod.[2]

CyfeiriadauGolygu

  1. Albert Seaton, The Cossacks (Reading, Berkshire: Osprey, 1972), t. 8.
  2. 2.0 2.1 2.2 Seaton, The Cossacks (1972), t. 10.
  3. Seaton, The Cossacks (1972), t. 9.