Craig-cefn-parc

pentref yn Sir Abertawe

Pentref yng nghymuned MawrSir Abertawe, Cymru, yw Graig-cefn-parc[1] neu Craig Cefn Parc ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn uniongyrchol i'r gogledd-orllewin o dref Clydach. Saif gwarchodfa natur Cwm Clydach yr RSPB yn ne'r pentref, yn agos i'r New Inn, ar y ffin rhwng Craig-cefn-parc a Chlydach. Mae gan y pentref swyddfa bost a siop, tafarn o'r enw'r Rock & Fountain Inn a neuadd bentref. Ceir hefyd ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yno.

Craig Cefn Parc
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7092°N 3.9156°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Mae Craig Cefn Parc yn enwog am ei hanes lofaol. Yng nghalon Cwm Clydach mae ambell un o'r hen dai glo yn dal i sefyll. Gwelir tram glo yng nghanol y pentref fel cofeb i'r gwaith glo.

Ganwyd William Crwys Williams (Crwys), y bardd enwog o'r 20g yng Nghraig Cefn Parc, ac mae modd gweld "border bach" chwedl ei gerdd ar ochr llethrau'r cwm. Bardd arall a gafodd ei fagu yng Nghraig Cefn Parc oedd Gwilym Herber, nai Crwys.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.