Merch eithriadol o deg y ceir ei hanes yn y chwedl Culhwch ac Olwen yw Creiddylad. Yn y chwedl Gymraeg Ganol gynnar honno mae hi'n ferch i Lludd Llaw Eraint.

Yn Culhwch ac Olwen, mae Gwyn ap Nudd (brenin y Tylwyth Teg yn llên gwerin Cymru) yn cipio'r forwyn Creiddylad ar ôl iddi redeg i ffwrdd gyda Gwythyr ap Greidawl, ymgeisydd Gwyn am ei chariad. Mae'r Brenin Arthur yn barnu ar yr anghydfod ac yn penderfynu fod y ddau ymgeisydd, Gwyn a Gwythyr, i ymladd ei gilydd o hynny allan bob Nos Galan Mai. Creiddylad yw'r wobr gyda'r buddugwr yn ei chael am flwyddyn. Mae hon yn frwydr symbolaidd efallai sy'n cynrychioli'r ymryson oesol rhwng y gaeaf a'r haf gyda Creiddylad yn cynrychioli y dduwies Natur. Ceir elfen o Gristioneiddo yn y chwedl: bydd Gwyn a Gwythyr yn ymladd ei gilydd dros y ferch hyd Ddydd Brawd, ond y tro olaf hwnnw bydd y buddugwr yn cadw Creiddylad am byth.[1]

Diddorol sylwi fod yr enwau Lludd (tad Creiddylad) a Nudd (tad Gwyn) yn gytras, gyda'r ddau yn ffurf ar enw's duw Celtaidd Nodons, yn ôl pob tebyg.

Mae rhai awduron llyfrau poblogaidd ar fytholeg Geltaidd yn ceisio uniaethu Creiddylad a Cordelia, ferch Llŷr, y ceir ei chwedl yn ffug-hanes Sieffre o Fynwy, ond 'Cordelia' yw'r enw a geir yn y fersiynau Cymraeg o waith Sieffre a does dim llawer mewn cyffredin rhwng y ddau gymeriad.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich a D. Simon Davies (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).