Gwythyr ap Greidawl

Cymeriad yn y chwedl gynnar Culhwch ac Olwen yw Gwythyr ap Greidawl (Cymraeg Canol: Gwythyr uab Greidawl).

Yn Culhwch ac Olwen, mae Gwyn ap Nudd - brenin y Tylwyth Teg yn llên gwerin Cymru - yn cipio'r forwyn Creiddylad ferch Llŷr ar ôl iddi redeg i ffwrdd gyda Gwythyr ap Greidawl, ymgeisydd Gwyn am ei chariad. Mae'r Brenin Arthur yn barnu ar yr anghydfod ac yn penderfynu fod y ddau ymgeisydd, Gwyn a Gwythyr, i ymladd ei gilydd o hynny allan bob Nos Galan Mai. Creiddylad yw'r wobr gyda'r buddugwr yn ei chael am flwyddyn. Mae hon yn frwydr symbolaidd efallai sy'n cynrychioli'r ymryson oesol rhwng y gaeaf a'r haf gyda Creiddylad yn cynrychioli y dduwies Natur. Ceir elfen o Gristioneiddo yn y chwedl: bydd Gwyn a Gwythyr yn ymladd ei gilydd dros y ferch hyd Ddydd Brawd, ond y tro olaf hwnnw bydd y buddugwr yn cadw Creiddylad am byth.[1]

Diddorol sylwi fod yr enwau Lludd (tad Creiddylad) a Nudd (tad Gwyn) yn gytras, gyda'r ddau yn ffurf ar enw's duw Celtaidd Nodons, yn ôl pob tebyg.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich a D. Simon Davies (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).