Hen Oes y Cerrig Uchaf
Mae Hen Oes y Cerrig Uchaf neu ar lafar Paleo Uchaf (Saesneg: (Upper Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: y rhaniad olaf o dri, ac yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 50,000-10,000 cyn y presennol (CP). Mae'n dilyn Hen Oes y Cerrig Canol ac yn rhagflaenu Oes ddiweddar yr Efydd pan ddechreuodd dyn drin y tir ac amaethu a chodwyd teml Göbekli Tepe yn Nhwrci.
Tua 50,000 CP, gwelwyd newid sylweddol yn yr amrywiaeth o offer llaw ac arteffactau eraill. Am y tro cyntaf yn Affrica, lle hannodd dyn, gwelwyd arteffactau a'r celf cyntaf yn ymddangos e.e. taflegrau bychan, miniog, offer ysgythru, llafnau miniog ac offer drilio a thyllu. Un o'r mannau pwysicaf yw Ogof Blombos yn Ne Affrica. Roedd pwrpas gwahanol ac unigryw i bob twlsyn a gwelwyd pwysigrwydd callestr. Rhwng 45,000 a 43,000 ymledodd y dechnoleg offer yma drwy Ewrop a gwelwyd cynnydd dybryd yn nifer y bobloedd; mae'n gwbwl bosib mai dyma a achosodd i nifer y Neanderthaliaid yn y cyfnod hwn ostwng yn sylweddol. Enw arall ar bobl yr Oes hon oedd y Cro-Magnon ac mae'r dystiolaeth ohonynt i'w gael mewn marciau ac mewn offer soffistigedig megis asgwrn, ifori, corn, paentiadau mewn ogofâu a cherfluniau bychan o bobl.[1][2][3] Hela carw oedd y gwaith pwysicaf, a helwyr a physgotwyr oedd mwyafrif y bobl.
Yn y cyfnod hwn, darganfuwyd 27 claddfa drwy Ewrop, lle lliwiwyd esgyrn dynol, ac un o'r rhai pwysicaf ydy Ogof Paviland ym Mhenrhyn Gŵyr lle defnyddiwyd ocr coch.
Yng Nghymru
golyguBu Ogof Paviland yn gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof hefyd ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Paleo Uchaf Cynnar) yn Ynys Prydain",[4] oherwydd natur defodol y claddu. Prin fod unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg yma drwy ynys Prydain ar wahân i Ogof Paviland. Er fod olion eraill ledled Prydain o fywyd, dyma bron yr unig un y gellir ei ddyddio'n bendant drwy ddyddio carbon.
Yn Ogof Kendrick ar Ben y Gogarth ceir olion naddu ar asgwrn gên ceffyl ac ar ddannedd gwartheg gwyllt a cheirw a gellir dyddio rhain i ddiwedd Hen Oes y Cerrig Uchaf: 10,000 CP. Galwyd yr ogof ar ôl yr archaeolegydd a'i darganfuodd: Thomas Kendrick.[5] Ceir ocr coch ar rai o'r rhain, hefyd. Dywed Jill Cook a Roger Jacobi o'r Amgueddfa Brydeinig: Mae'r darganfyddiad yma heb ei debyg drwy Ewrop gyfan.
Diwedd y cyfnod: Göbekli Tepe
golyguUn o'r darganfyddiadau pwysicaf tua diwedd y cyfnod yma yw teml Göbekli Tepe yn Nhwrci, sy'n dyddio i 8,000-10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[6] Saif y safle hwn oddeutu 12 km (7 milltir) i'r de-ddwyrain o ddinas Şanlıurfa ac mae'n bosibl i'r safle hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer defodau crefyddol rhwng 8C CP a 10C CP. Mae pwrpas y noddfa hwn yn ddirgelwch llwyr. Mae Göbekli Tepe yn unigryw ac yn llawn cwestiynau nad oedent, yn 2016, wedi eu hateb. Yn eu plith mae'r cwestiwn pam y llanwyd y safle cyfan gyda phridd ar ddiwedd yr ail gyfnod, fel ymgais i'w guddio. Mae llawer o anifeiliaid hefyd wedi eu cerfio ar y maeni, y rhan fwyaf ohonynt yn anifeiliaid hela ee llew, baedd gwyllt ac adar. Cwestiwn arall yw pam nad oes olion bywyd yma, a ble felly roedd y trigolion yn byw? Oherwydd fod y safle hwn mor wahanol i bob safle arall, gall yr atebion i'r cwestiynau hyn newid ein dealltwriaeth o'r cyfnod pwysig hwn yn natblygiad dyn a chymdeithas a'r modd y trodd yr heliwr-gasglwr yn ffarmwr.
Amcangyfrifir y byddai poblogaeth Cymru yn y cyfnod hwn oddeutu mil neu ar y mwyaf dwy fil.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Biological origins of modern human behavior part3
- ↑ Biological origins of modern human behavior part 1
- ↑ "'Modern' Behavior Began 40,000 Years Ago In Africa", Science Daily, Gorffennaf 1998
- ↑ Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19. Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Paviland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain" Gweler hefyd tud 20: The burial represents a single event in the history of this cave, but such an event is rare even on a European scale.
- ↑ Jill Cook a Roger Jacobi o'r Amgueddfa Brydeinig. Gweler: Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 21
- ↑ "Göbekli Tepe". Forvo Pronunciation Dictionary.