Cronos
Ym mytholeg Roeg, arweinydd y Titaniaid, y genhedlaeth gyntaf o dduwiau, plant Gaia, y ddaear, ac Ouranos yr awyr oedd Cronos neu Cronus (Hen Roeg: Κρόνος, Krónos).'[1] Diorseddodd Cronos ei dad, ac ef oedd y rheolwr yn ystod yr Oes Aur, hyd nes iddo ef gael ei ddiorseddu gan ei feinion, Zeus, Hades a Poseidon. Roedd yn cyfateb i Sadwrn yn y traddodiad Rhufeinig. Cysylltir ef â'r cnydau a'r cynhaeaf ac ag amser.
Yn ôl un chwedl, roedd Ouranos wedi cuddio plant ieuengaf Gaia, Hecatonchires a Cyclops, yn Tartarus, fel na allent weld y goleuni. Perswadiodd Gaia ei mab Cronos i ymosod ar Ouranos â chryman, gan ei ysbaddu. Daeth Cronos â'i wraig Rhea yn rheolwyr.
Roedd proffwydoliaeth y diorseddid Cronos gan un o'i blant, ac o'r herwydd, llyncodd Demeter, Hera, Hades, Hestia, a Poseidon cyn gynted ag y ganwyd hwy. Rhoddodd Rhea enedigaeth i'r chweched plentyn, Zeus, mewn ogof ar Fynydd Ida ar ynys Creta, a rhoddodd garreg, yr Omphalos, mewn dillad baban i Cronos ei llyncu. Wedi iddo dyfu, gorfododd Zeus ei dad i chwydu ei frodyr a'i chwiorydd, a bu rhyfel, y Titanomachia, rhyngddynt hwy a'r Titaniaid, a diorseddwyd Cronos gan Zeus. Yn ôl rhai fersiynau, carcharwyd ef yn Tartarus; yn ôl Pindar daeth yn frenin Elysium.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Galwyd ef gan Andrew Lang yn Cronos, sillafiad nad yw'n Iaith Roeg nac yn Lladin; gweler llyfr Robert Brown: Semitic Influence in Hellenic Mythology, 1898:112-13.