Crug Plas Heaton
Crug crwn a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Plas Heaton, yng nghymuned Henllan, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ032685. Mae'n mesur 22 metr mewn diamedr ac 1.5m o uchder. Pan gafodd ei gloddio gan archaeolegwyr cynnar yn 1850 darganfuwyd tri chorff dynol wedi'u claddu yn eu cwrcwd, rhannau o wrn ac ysgerbwd ychen.
Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE049.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.
Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]
Gweler hefyd
golyguMathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:
Dolen allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-06.