Henllan, Sir Ddinbych

pentref a chymuned yn Sir Ddinbych

Pentref bychan hanesyddol a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Henllan("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SJ023681). Saif ar groesffordd wledig tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ar yr hen lôn o'r dref honno i Lansannan. Mae Eglwys Sant Sadwrn a'i glochdy canoloesol hynod yn edrych i lawr ar y pentref.

Henllan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth862 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd464.59 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2011°N 3.4633°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000156 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ022681 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Hanes a hynafiaethau golygu

Ceir nifer o hen dai yn y pentref. Mae'r eglwys yn hynod am fod ei chlochdy yn sefyll ar wahân ar fryncyn calchfaen isel.

Mae cerdd gan Guto'r Glyn yn y 15g yn gofyn i Ddeon Bangor yrru llwyth o lechi iddo o Aberogwen, ger Bangor, i Ruddlan i’w rhoi ar dô tŷ Syr Gruffudd ab Einion ap Tudur ap Heilyn Goch yn Henllan.[1]

Claddwyd yr emynydd Hugh Jones o Faesglasau (1749-1825) ym mynwent eglwys y plwyf yn Ebrill 1825, ar ôl iddo farw yn Ninbych yn 75 oed.

Saif Foxhall, cartref teulu Humphrey Lhuyd, o fewn y gymuned. Heb fod yn nepell ceir plasdy Foxhall Newydd, sy'n adeilad rhestredig Graddfa I.

 
Henllan o Gae Llindir; c. 1885
 
Henllan: canol y pentref
 
Eglwys Sant Sadwrn, Henllan

Tîm pêl-droed y pentref golygu

Mae CPD Henllan yn cystadlu yng Nghyngrair Pêl Droed Haf Llandyrnog a'r Cylch. Derbyniwyd i'r gynghrair yn 1932. Ers hyn maent wedi ennill y gynghrair 7 gwaith a'r darian 4 gwaith. Cafwyd eu llwyddiant diwethaf yn 2012 wrth guro Clawddnewydd yn rownd derfynol y darian, ac yn y broses yn cipio'u tlws cyntaf ers 38 mlynedd.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Henllan, Sir Ddinbych (pob oed) (862)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Henllan, Sir Ddinbych) (353)
  
42.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Henllan, Sir Ddinbych) (575)
  
66.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Henllan, Sir Ddinbych) (123)
  
32.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams (gol.), Gwaith Guto'r Glyn (Caerdydd, 1939). Tud. 277-8.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]