Crugiau Tremeirchion

Crugiau crynion a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau Tremeirchion, yng nghymuned Tremeirchion, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ110759. Mae'n mesur 29 metr wrth 1.6m.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: FL047.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Crugiau crwn eraill golygu

  • Ceir crug crwn arall gerllaw, sef "Crug Criafol": cyfeirnod grin: SJ09317611.[3] Mae'n mesur 34 metr wrth 1.7m.
  • Dau grug ar Foel Efa:
SJ08687434 [4] 13 metr wrth 0.6m.
SJ08717441 sy'n 10 metr mewn diamedr ac yn 13 metr o uchder. Mae'n bosib mai hwn ydy'r crug crwn talaf yng Nghymru.[5]
  • Crug crwn Pant y Dulath; cyfeirnod grid: SJ09677624.[6] Mae hwn yn perthyn i Oes yr Efydd yn ôl archwiliad 1967.

Gweler hefyd golygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-07.
  3. "gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-07.
  4. Crug #2 Gwefan Coflein[dolen marw]
  5. "Crug #1 Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-16. Cyrchwyd 2010-11-07.
  6. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-07.

Dolen allanol golygu