Cerddor Cymreig canoloesol oedd y Crythor Du. Ceir sawl chwedl werin amdano ac mae'n amhosibl gwybod erbyn heddiw a fu rhyw "Grythor Du" yn clera yng Nghymru yn y gorffennol neu beidio.

Crythor Du
GanwydGwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Gelwir un o'r chwedlau amdano 'Y Crythor Du a'r Bleiddiaid'. Un noson loergan yr oedd y Crythor Du yn cyfeirio ei gamau tuag adref a'i grwth ar ei gefn ac yn sydyn cafodd ei amgylchynu gan yrr o fleiddiaid. I'w cadw draw dechreuodd chwarae ei grwth â'i holl egni gyda'r bwriad o'u dychryn. Llwyddodd i'w hatal am ychydig ond yn fuan roeddynt yn barod i ruthro iddo. Pan welodd hynny, dechreuodd chwarae alawon melus seinber. Llonyddodd hyn y bleiddiaid rheibus ond doedd gwiw i'r Crythor roi'r gorau i'w chwarae a bu wrthi trwy'r nos yn ei ofn a'r bleiddiaid yn gwrando'n astud. Tua'r wawr daeth grŵp o ddynion heibio a ffodd y bleiddiaid.[1]

Yn ôl chwedl arall, roedd y Crythor Du yn un o'r cerddorion crwydr a arferai fynd ar deithiau clera gyda'i was i'w ddilyn. Dywedir i'r ddau farw o oerfel anghyffredin yn Eryri un gaeaf pan ar daith glera i Feddgelert. Cofnoda'r hynafiaethydd Edward Lhuyd fod beddau'r Crythor a'i was yn adnabyddus yn ei gyfnod ef ar lan Llyn Dinas yn Nant Gwynant.[2]

Mae'n bosibl mai'r Crythor Du hwn a gofir yn enw 'Ogof y Crythor Du', ger Cricieth. Dywedir fod crythor, pibydd a chornor wedi'u denu i'r ogof gan sain miwsig bersain. Nis gwelwyd byth wedyn, ond clywid alawon y cerddorion yn dod o'r ogof. Dyma 'Ffarwél Ned Puw' neu 'Ffarwél Dic y Pibydd'.[3]

Ceir hen gainc i'r delyn a elwir 'Erddigan y Crythor Du'. Ceir cainc arall o'r enw 'Cainc y Crythor Du Bach' hefyd.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, d.d.=1913), tud. 332.
  2. Llyfr Cerdd Dannau, tud. 332.
  3. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. 'Ffarwél Ned Puw'.
  4. Llyfr Cerdd Dannau, tud. 333.

Gweler hefyd golygu