Cuhelyn Fardd
Uchelwr canoloesol o Ddyfed yn ne-orllewin Cymru a oedd efallai yn fardd oedd Cuhelyn Fardd (fl. yn gynnar yn y 12g, efallai tua 1100 - 1130). Does dim o'i waith wedi goroesi ond roedd yn ffigwr adnabyddus yn yr Oesoedd Canol.[1]
Cuhelyn Fardd | |
---|---|
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguRoedd Cuhelyn yn perthyn i deulu o feirdd a noddwyr yn y de-orllewin. Roedd yn fab i Gwynfardd Dyfed (bardd na wyddys dim amdano fel arall) ac yn dad i'r bardd Gwrwared Gerdd Gymell, un o gyndeidiau'r cywyddwr enwog Dafydd ap Gwilym. Roedd yn arglwydd neu dywysog yng nghantref Cemais, yn Nyfed.[1]
Cerdd Llyfr Du Caerfyrddin
golyguEr nad oes unrhyw destun o ganu Cuhelyn ar glawr heddiw, ceir awdl foliant iddo yn Llyfr Du Caerfyrddin (hanner cyntaf y 13g?). Yn y Myvyrian Archaiology of Wales ceir testun o'r gerdd hon sy'n cael ei briodoli i Guhelyn, ond gwyddom bellach ei bod yn gerdd iddo ef yn hytrach na cherdd o'i waith ei hun. Mae'n ansicr felly ei fod yn fardd, ond yn sicr roedd yn gynheiliad pwysig i'r beirdd proffesiynol. Ceir enghreifftiau eraill o uchelwyr a thywysogion a gyfansoddai gerddi, e.e. Hywel ab Owain Gwynedd, felly nid yw'n amosibl fod Cuhelyn yntau yn fardd.[1]
Traddodiadau
golyguMae'r hynafiaethydd George Owen yn cofnodi traddodiadau amdano yn Sir Benfro sy'n ei bortreadu fel brudiwr a chyfarwydd yn ogystal â bardd.[1]