Ciwpid
(Ailgyfeiriad o Cupid)
Duw serch ym mytholeg Rufeinig oedd Ciwpid (Lladin: Cupido). Roedd yn cyfateb i Eros ym mytholeg Roeg ac Amor ym marddoniaeth Lladin. Roedd yn fab i Wener, duwies cariad, a Mercher, negesydd adeiniog y duwiau.[1] Ymddengys mewn celf fel plentyn ag adenydd (ond gall ei oedran amrywio i fod yn llanc ifanc) yn dal bwa a chawell saethau; yn aml mae ganddo fwgwd dros ei lygaid hefyd.[2]
-
Manylyn o La Primavera gan Sandro Botticelli: Ciwpid â mwgwd dros ei lygaid (uwchben ffigwr Gwener)
Enghraifft o'r canlynol | duwdod Rhufeinig, duwdod ffrwythlondeb, creadur chwedlonol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
-
Amor Vincit Omnia gan Caravaggio (yn seiliedig ar ddywediad gan Fyrsil – "Mae cariad yn trechu'r cyfan")[2]