Cwm Glas Bach
Cwm Glas Bach - cwm ym Mwlch Llanberis, ar ochr ogledd-ddwyreiniol Crib y Ddysgl / Garnedd Ugain (un o'r Wyddfa a'i chriw); tua cilometr a hanner i'r de-ddwyrain o Nant Peris.[1] Enw arall arno yw Cwm Hetiau gan y byddai hetiau pobl oes Fictoria yn chwythu o'r grib i lawr i'r cwm. Yn y cwm ceir cymuned o blanhigion Arctig-Alpaidd, sy'n cynnwys Woodsia alpina, Polystichum lonchitis (rhedynen gelynnog), Galium boreale, Thalictrum alpinum, a Silene acaulis (gludlys mwsogaidd).
O'i gymharu â llawer o gymoedd eraill, mae gan Cwm Glas Bach gasgliad llawer mwy cyfoethog o blanhigion na sy'n arferol ar fynydd yng Nghymru. Mae'r gair glas yn yr enw yn cyfeirio at y cyfoeth hwn - oherwydd natur calchog y creigiau yn y cwm. Mae nifer o gymoedd eraill wedi cael enwau tebyg, e.e. Cwm Glas Mawr a Chwm Glas Crafnant.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri[dolen farw]; adalwyd 05 Rhagfyr 2013