Carnedd Ugain

mynydd (1065.3m) yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Crib y Ddysgl)

Un o'r copaon ar yr Wyddfa yn Eryri yw Carnedd Ugain, Garnedd Ugain neu Crib y Ddysgl.

Garnedd Ugain
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolYr Wyddfa a'i chriw Edit this on Wikidata
SirLlanberis, Beddgelert, Betws Garmon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,065 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.07552°N 4.07518°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6108255158 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd72 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOrdofigaidd Edit this on Wikidata
Rhiant gopaYr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Adnabyddir y mynydd yn gyffredinol fel Crib y Ddysgl ond a bod yn hollol gywir, mae Crib y Ddysgl yn cyfeirio'n unig at barhad Y Grib Goch.[1]

Lleoliad ac uchder

golygu

Saif copa Carnedd Ugain copa tua cilometr i'r gogledd o gopa'r Wyddfa ei hun ac fe'i ystyrir yn gopa ar wahân i'r Wyddfa gan Alan Dawson, sy'n ei alw'n Hewitt; dyma'r ail gopa uchaf yng Nghymru.

Llwybrau

golygu

Mae llwybr Pedol yr Wyddfa yn cynnwys copa Garnedd Ugain, ac mae'r llwybr o Lanberis i gopa'r Wyddfa yn mynd heibio iddo, ond heb fynd tros y copa. I'r de o'r copa mae clogwyni serth gyda Llyn Glaslyn islaw, tra i'r gogledd mae Cwm Glas.


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)

  1. Crolla, Rachel; McKeating, Carl (2022-08-15). Scrambles in Snowdonia: 80 of the Best Routes - Snowdon, Glyders, Carneddau, Eifionydd and Outlying Areas (yn Saesneg). Cicerone Press Limited. t. 198. ISBN 978-1-78362-925-1.