Dringwr ac anturiaethwr Cymreig yw Eric Jones (ganwyd 1935).[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am fod y Cymro (a'r Prydeiniwr) cyntaf i ddringo wyneb ogleddol yr Eiger yn yr Alpau, yn 1981 ar ei ben ei hun, camp a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel Eiger Solo. Yn ogystal, mae Eric Jones yn enwog am fod y person cyntaf i ddringo Piler Canol y Brouillard ar grib ddeheuol Mont Blanc. Yn 1972, dringodd wyneb ogleddol y Matterhorn ar ei ben ei hun. Llwyddodd hefyd i ddringo y bwlch deheuol sy'n arwain at gopa Everest.[2] Yn 1986, Eric Jones oedd y person cyntaf i neidio BASE oddi ar yr Eiger, a hynny ar ei naid BASE gyntaf. Yn ogystal, mae Eric Jones wedi neidio BASE oddi ar y rhaeadr uchaf yn y byd, sef Kerepakupai Vená (Rhaeadr Angel) yn Feneswela, ac i mewn i Ogof y Gwenoliaid (Sotano de las Golodrinas) ym Mecsico.

Eric Jones
GanwydCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdringwr mynyddoedd Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywyd Cynnar golygu

Magwyd Eric Jones ar fferm ei deulu ger pentref Derwen, Sir Ddinbych, a mynychodd Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun. Treuliodd lawer o'i blentyndod yn cynorthwyo ar y fferm a daeth yn brif ofalwr ar y fferm ym Fryn Saith Marchog ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd Eric yn ddeunaw mlwydd oed. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu a dechreuodd Eric weithio mewn chwarel yng Ngwyddelwern. Dioddefai ei fam o salwch meddwl; cyfaddefodd yn 'Golwg' 'Ro'n i'n reit isel fy ysbryd am y blynyddoedd yna'.[3]

Pan gafodd yr alwad i gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, gobeithiodd Eric ymuno gyda Chatrawd y Parasiwtwyr, ond methodd a gwneud hynny oherwydd ei fod wedi dioddef anaf i'w ben-glin. Yn y pen draw, ymunodd Eric gyda'r Heddlu Milwrol a threuliodd ddwy flynedd yn gwasanaethu gyda nhw.

Dringo golygu

Pan ddychwelodd Eric i Gymru, cychwynodd weithio yn ffatri deunyddiau syunthetig 'Courtaulds' yn y Fflint. Yn ysod ei amser hamdden byddai'n hoff o ymweld â'r mynyddoedd yn Eryri, ac yn 25 mlwydd oed penderfynodd Eric a'i gyfaill Gordon Rees ddilyn cwrs tri niwrnod a gynhaliwd yn Nyffryn Ogwen ar sut i ddringo gyda rhaffau.

Dysgodd Eric ddringo yn ardal Llanberis, Gwynedd a daeth yn feistr ar y grefft yn sydyn iawn. Wedi hynny, dechreuodd ddringo ar ei ben ei hun heb raffau, a bu'n dringo llawer yn ardaloedd yr Alpau a'r Himalaya yn ogystal â mynyddoedd De'r Amerig. Bu'n gweithio mewn ysgol ddringo Americanaidd yn Zermatt, y Swistir, bob haf am bedair blynedd.

Yn ychwanegol at ddringo mynyddoedd a neidio BASE, mae Eric Jones yn ymddiddori mewn parasiwtio. Mae hefyd yn berchenog caffi yn Nhremadog. Yn 2014, yn 78 oed, roedd wedi gyrru i'r Pyrennes i sgio am dri mis, dringo ym Mhatagonia a neidio o awyren.

Cyfeiriadau golygu

  1. Alun Fôn Roberts (28 Tachwedd 2013). Gwefr ar Graig. Golwg
  2. "The Man who jumped beneath the Earth; Adalwyd 7 Mai 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-09-29. Cyrchwyd 2004-09-29.
  3. Golwg 20 Tachwedd 2014; tud 15