Cwmsymlog

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Mae Cwmsymlog wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 16 Mawrth 1988 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle, yn bennaf ar sail y llystyfiant anarferol sydd arni.[1] Mae ei arwynebedd yn 4.17 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Cwmsymlog
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4.17 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4376°N 3.9149°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Math o safle golygu

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol. Saif y SoDdGA ar dir oedd unwaith yn fwynglawdd metalau, gan gynnwys plwm ac arian. Mae'r canran uchel o fetalau yn y tir gwastraff yn wenwynig i lawer o lystyfiant y fro. Ond y mae rhywogaethau o gen a rhedyn prin a phlanhigion gweundir wedi ymgartrefu ar yr olion diwydiannol ar y safle hwn. At hyn mae cynefinoedd eraill o ddiddordeb ar y SoDdGA. Mae'r rhain yn cynnwys glaswelltir asidaidd, gweundir, mannau corsiog a cheuffyrdd sy'n gysylltiedig â'r mwyngloddio. Mae'r gweirlöyn llwyd a'r ceiliog rhedyn brith hefyd i'w cael yno.

Dynodwyd y safle yn SoDdGA yn ôl gofynion y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn 1988. Mae hen simne ffwrnais y mwynglawdd yn sefyll ar y safle. Mae'r simne yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae mynediad agored i dir y safle. Mae peth ohono'n eiddo i Gyngor Sir Ceredigion a pheth i unigolion.

 
Hen simne'r mwynglawdd

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu