Cwpan yr Alban
Cwpan yr Alban (Saesneg: Scottish Cup; Gaeleg: Cupa na h-Alba) yw prif dwrnamaint cwpan pêl-droed yr Alban ac mae wedi'i drefnu gan Gymdeithas Bêl-droed yr Alban (SFA) ers 1874. Ei enw llawn, swyddogol yw, Scottish Football Association Challenge Cup,[1] Y rownd derfynol yw diwedd traddodiadol y tymor. Dyma ail gystadleuaeth cwpan cenedlaethol pêl-droed hynaf y byd, wedi Cwpan Lloegr a sefydlwyd yn 1871-72 (y trydedd gwpan hynaf yn y byd yw Cwpan Cymru a chwarewyd yn 1877-1878.[2])
Enghraifft o'r canlynol | cwpan pêl-droed y gymdeithas genedlaethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1874 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguEr mai dyma'r ail gystadleuaeth hynaf yn hanes pêl-droed ar ôl Cwpan yr FA, tlws Cwpan yr Alban yw'r tlws hynaf ym mhêl-droed a hefyd y tlws hynaf yn y byd. Fe'i cyflwynwyd gyntaf i Queen's Park, a enillodd rownd derfynol y twrnamaint agoriadol ym mis Mawrth 1874.[3]
Sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban yn 1873 a chrëwyd Cwpan yr Alban fel cystadleuaeth flynyddol i'w haelodau.[4] Digwyddodd gêm gyntaf Cwpan yr Alban ar 18 Hydref 1873 pan drechodd clwb Renton tîm Kilmarnock F.C. 2-0 yn y rownd gyntaf.[5] Yn ei blynyddoedd cynnar, Queens Park oedd yn bennaf cyfrifol am y gystadleuaeth, a enillodd y rownd derfynol 10 gwaith yn yr ugain mlynedd cyntaf.[6] Bu Vale of Leven, Dumbarton F.C. a Renton hefyd yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod hwn.[3] Ym 1885, cofnodwyd y fuddugoliaeth fwyaf erioed yn y twrnamaint pan enillodd Arbroath 36-0 yn erbyn Bon Accord mewn gêm rownd gyntaf.[3][6] Hon hefyd oedd y gêm bêl-droed broffesiynol â'r sgôr uchaf a gofnodwyd mewn hanes.
Tlws
golyguTlws Cwpan yr Alban yw'r tlws cenedlaethol hynaf a hefyd y tlws pêl-droed hynaf yn y byd.[7][8] Fe'i gwnaed gan y gof arian George Edward & Sons yn Glasgow ac mae wedi'i gyflwyno i enillwyr y twrnamaint ers 1874.[8] Mae'r tlws arian solet yn 50cm o uchder ac yn pwyso 2.25kg.[6] Mae'r tlws gwreiddiol yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Bêl-droed yr Alban ym Mharc Hampden.[9] Caiff ei dynnu unwaith y flwyddyn i'w lanhau a'i gyflwyno i enillwyr y twrnamaint.[10] Ar ôl y seremoni gyflwyno, dychwelir y tlws i'r amgueddfa.[11] Rhoddir copi o'r tlws gwreiddiol i enillwyr y twrnamaint ar ôl y seremoni ac fe'i defnyddir hefyd at ddibenion hyrwyddo.[9]
Strwythur
golyguMae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ffurff cystadleuaeth ddileu. Mae'r twrnamaint yn dechrau ar ddechrau tymor pêl-droed yr Alban, ym mis Awst. Rownd Derfynol Cwpan yr Alban fel arfer yw gêm olaf y tymor, sy’n cael ei chynnal ddiwedd mis Mai.[12] Mae'n agored i'r 122 clwb sy'n aelodau llawn o gymdeithas bêl-droed yr Alban ynghyd a hyd at wyth clwb arall sy'n aelodau cysylltiol.
Yn draddodiadol mae rownd derfynol y twrnamaint wedi cael ei chwarae ym Mharc Hampden ers 1921. Yn y gorffennol, mae stadia eraill hefyd wedi cynnal y rownd derfynol pan nad oedd Parc Hampden ar y gael.
Mae enillydd y gwpan yn gymwys ar gyfer Cynghrair Europa UEFA.
Dim rownd derfynol
golyguYm 1909 oedd y tro cyntaf na chynhaliwyd gêm derfynol. Cafodd y twrnamaint cwpan ei ganslo oherwydd aflonyddwch rhwng cefnogwyr Celtic FC a Rangers FC. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r flwyddyn ganlynol (1915–1919) ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1940–1946), ni chynhaliwyd twrnameintiau cwpan chwaith.
Tabl enillwyr
golygu- 1874-2022
Clwb | Enillydd | Chwarae yn y ffeinal | Enillydd yn: |
---|---|---|---|
Celtic F.C. | 40 | 19 | 1892, 1899, 1900, 1904, 1907, 1908, 1911, 1912, 1914, 1923, 1925, 1927, 1931, 1933, 1937, 1951, 1954, 1965, 1967, 1969, 1971, 1972, 1974, 1975, 1977, 1980, 1985, 1988, 1989, 1995, 2001, 2004, 2005, 2007, 2011, 2013, 2017, 2018, 2019, 2020 |
Rangers F.C. | 34 | 19 | 1894, 1897, 1898, 1903, 1928, 1930, 1932, 1934, 1935, 1936, 1948, 1949, 1950, 1953, 1960, 1962, 1963, 1964, 1966, 1973, 1976, 1978, 1979, 1981, 1992, 1993, 1996, 1999, 2000, 2002, 2003, 2008, 2009, 2022 |
Queen's Park F.C. | 10 | 2 | 1874, 1875, 1876, 1880, 1881, 1882, 1884, 1886, 1890, 1893 |
Heart of Midlothian F.C. | 8 | 9 | 1891, 1896, 1901, 1906, 1956, 1998, 2006, 2012 |
Aberdeen F.C. | 7 | 9 | 1947, 1970, 1982, 1983, 1984, 1986, 1990 |
Hibernian F.C. | 3 | 12 | 1887, 1902, 2016 |
Kilmarnock F.C. | 3 | 5 | 1920, 1929, 1997 |
Vale of Leven F.C. | 3 | 4 | 1877, 1878, 1879 |
Clyde F.C. | 3 | 3 | 1939, 1955, 1958 |
St. Mirren F.C. | 3 | 3 | 1926, 1959, 1987 |
Dundee United F.C. | 2 | 7 | 1994, 2010 |
Motherwell F.C. | 2 | 6 | 1952, 1991 |
Third Lanark A.C. | 2 | 4 | 1889, 1905 |
Falkirk F.C. | 2 | 3 | 1913, 1957 |
Renton F.C. | 2 | 3 | 1885, 1888 |
Dunfermline Athletic F.C. | 2 | 3 | 1961, 1968 |
St. Johnstone F.C. | 2 | 2014, 2021 | |
Dumbarton F.C. | 1 | 5 | 1883 |
Dundee F.C. | 1 | 4 | 1910 |
Airdrieonians FC | 1 | 3 | 1924 |
East Fife F.C. | 1 | 2 | 1938 |
Partick Thistle F.C. | 1 | 1 | 1921 |
Greenock Morton F.C. | 1 | 1 | 1922 |
St. Bernard's F.C. | 1 | 1895 | |
Inverness Caledonian Thistle F.C. | 1 | 2015 | |
Hamilton Academical F.C. | 2 | ||
Clydesdale F.C. | 1 | ||
Thornliebank F.C. | 1 | ||
Cambuslang F.C. | 1 | ||
Raith Rovers F.C. | 1 | ||
Albion Rovers F.C. | 1 | ||
Gretna F.C. | 1 | ||
Queen of the South F.C. | 1 | ||
Ross County F.C. | 1 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Rules of the Scottish Football Association Challenge Cup, Scottish Football Association. Retrieved 2 Medi 2014.
- ↑ Chris and Kit make Welsh Cup Semi-Final Draw[dolen farw] Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Saesneg)
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "History of the Cup". Scottish FA. https://www.scottishfa.co.uk/scottish-cup/archive/scottish-cup-history/the-history-of-the-cup/.
- ↑ Brief History of the Scottish FA, scottishfa.co.uk. Scottish Football Association. Archived from the original on 1 July 2008. Retrieved 25 May 2015.
- ↑ The Scottish Cup - Then and Now, scottishfa.co.uk. Scottish Football Association. Archived from the original on 27 June 2008. Retrieved 25 May 2015.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Tennent’s Scottish Cup Previous Winners, scottishfa.co.uk. Scottish Football Association. Archived from the original on 27 June 2008. Retrieved 25 May 2015.
- ↑ Oldest Association football trophy, guinnessworldrecords.com. Guinness World Records. Retrieved 2 September 2014.
- ↑ 8.0 8.1 After 137 years, it's official: Scottish Cup is world football's oldest trophy, scotsman.com. The Scotsman. 4 July 2011. Retrieved 9 June 2015.
- ↑ 9.0 9.1 "Replica Scottish Cup damaged in Inverness". BBC News. 22 May 2015. Cyrchwyd 22 May 2015.
- ↑ Scottish Cup named oldest national football trophy, eveningtimes.co.uk. Evening Times. 5 July 2011. Retrieved 9 June 2015.
- ↑ The Scottish Cup Preparation for the Final, scottishfootballmuseum.org.uk. Scottish Football Museum. 29 May 2015. Retrieved 2 June 2015.
- ↑ "2021/22 Scottish Cup fixture dates confirmed | News | Scottish Cup". www.scottishfa.co.uk. Cyrchwyd 2021-07-31.