Cwymp eira ym Mhrydain ac Iwerddon, Chwefror 2009

Cyfnod hirfaith o gwymp eira o 1 Chwefror i 13 Chwefror 2009 oedd y cwymp eira ym Mhrydain ac Iwerddon, Chwefror 2009.

Cwymp eira ym Mhrydain ac Iwerddon, Chwefror 2009
Math o gyfrwngeira Edit this on Wikidata
DyddiadChwefror 2009 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bws Parcio a Teithio yng Nghaerfyrddin
Eira yn Llundain, 2 Chwefror, 2009

Effeithiau yng Nghymru

golygu

Ddydd Mawrth, 3 Chwefror, cafodd 500 o ysgolion eu cau yng Nghymru wedi i hyd at 15 cm o eira disgyn mewn rhai ardaloedd o'r wlad. Caewyd llain lanio Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd er mwyn clirio'r eira.[1]

Ddydd Mercher, 4 Chwefror, caeodd tua 200 o ysgolion oherwydd y tywydd.[2] Ddydd Iau, 5 Chwefror, bu 630 o ysgolion ar draws y wlad ar gau, y mwyafrif yn y de ddwyrain.[3]

Ddydd Gwener, 6 Chwefror, caeodd 300 o ysgolion. Caewyd y ddwy bont dros Afon Hafren ar ôl i dalpiau o rew gwympo a thorri ffenestri blaen chwe char.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Eira: 500 o ysgolion wedi cau. BBC (3 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.
  2.  Trydydd diwrnod o drafferth tywydd. BBC (4 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.
  3.  Tywydd: Ffyrdd ac ysgolion yn cau. BBC (6 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.
  4.  300 o ysgolion ynghau. BBC (6 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato