Cyfansoddiad Bendery
Cyfansoddiad ysgrifenedig cyntaf y Cosaciaid Wcreinaidd oedd Cyfansoddiad Bendery neu Gyfansoddiad Pylyp Orlyk—yn llawn Cytundebau a Chyfreithiau Hawliau a Rhydd-didau Llu Zaporizhzhia (Wcreineg: Договори і Постановлення Прав і вольностей Війська Запорозького Dohovory i Postanovlennya Prav i volʹnostey Viysʹka Zaporozʹkoho; Lladin: Acta et Constitutiones Legum Libertatumque Exercitus Zaporoviensis)—a arwyddwyd ar 5 Ebrill [16 Ebrill yn yr Hen Ddull] 1710 wrth ethol Pylyp Orlyk yn Hetman Llu Zaporizhzhia gan gynhadledd yn Bendery, Tywysogaeth Moldafia.
Enghraifft o'r canlynol | cyfansoddiad |
---|---|
Awdur | Pylyp Orlyk |
Iaith | Lladin, Hen Rwtheneg |
Dechrau/Sefydlu | 1710 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn sgil buddugoliaeth Tsaraeth Rwsia ym Mrwydr Poltava (1709), yr ymladdfa fwyaf a phwysicaf yn Rhyfel Mawr y Gogledd, ffoes yr Hetman Ivan Mazepa a Siarl XII, brenin Sweden, â'u lluoedd i Foldafia, dan dra-arglwyddiaeth yr Ymerodraeth Otomanaidd. Yn Bendery bu farw Mazepa ddeufis yn ddiweddarach, a galwyd cynhadledd Gosacaidd, dan warchodaeth Siarl XII, i ethol hetman alltud newydd yng Nglan Dde Wcráin, tra'r oedd yr Hetmanaeth yng Nglan Chwith Wcráin dan benarglwyddiaeth Rwsia.
Lluniwyd y ddogfen, yn yr ieithoedd Lladin a Rwtheneg (Wcreineg), gan Orlyk, Kryhorii Hertsyk, Andrii Voinarovsky, a Kost Hordiienko. Mae'r cyfansoddiad yn seiliedig ar gytundeb rhwng yr hetman, y swyddogion milwrol, a Llu Zaporizhzhia fel cyfangorff. Mae'n cynnwys rhagarweiniad—a gyflwyna grynodeb o hanes yr Wcreiniaid a Llu Zaporizhzhia, gan honni taw'r Cosaciaid oedd sefydlwyr Rws Kiefaidd—ac 16 o baragraffau. Cadarnhawyd etholiad yr Hetman Orlyk gan y Brenin Siarl XII, a chydnabuwyd yn warantwr ar gyfer Wcráin annibynnol. Yn ôl y cyfansoddiad, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol oedd crefydd y wladwriaeth, a'r eglwys honno dan reolaeth Archesgobaeth Caergystennin, nid Moscfa; cydnabuwyd y ffin â'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd fel y'i disgrifir yng Nghytundeb Zboriv (1649); a chadarnhawyd y byddai Llu Zaporizhzhia yn adennill Trakhtemyriv, Kodak, a thiroedd cyfagos ac yn chwalu caer y Rwsiaid yn yr hen sich.[1]
Amlinellir llywodraeth arfaethedig Llu Zaporizhzhia fel a ganlyn: byddai'r hetman yn penderfynu ar faterion gwladol o bwys ar y cyd â'r staff milwrol, y cyrnoliaid, a chynghorwyr cyffredinol o bob un gatrawd; byddai'r Cyngor Milwrol Cyffredinol yn cyfarfod ym mhreswylfa'r hetman teirgwaith y flwyddyn (y Nadolig, y Pasg, a Gŵyl Eiriolaeth y Theotokos); ac arolygir materion barnwrol pwysig gan y Llys Milwrol Cyffredinol. Bu Cyfansoddiad Bendery mewn grym yng Nglan Dde Wcráin hyd at 1714.[1]