Diplomydd a chynghorwr milwrol Cosacaidd Wcreinaidd oedd Pylyp Orlyk (11 Hydref 167226 Mai 1742) a fu'n Hetman alltud Llu Zaporizhzhia o 1710 hyd at ei farwolaeth.

Pylyp Orlyk
Portread o Pylyp Orlyk.
EnwПилип Орлик
Ganwyd11 Tachwedd 1672 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kasuta Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 1742 Edit this on Wikidata
Iași Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd Edit this on Wikidata
SwyddHetman of Zaporizhian Host Edit this on Wikidata
TadStepan Orlyk Edit this on Wikidata
MamIryna Orlyk Edit this on Wikidata
PriodГанна Герцик Edit this on Wikidata
PlantGrégoire Orlyk Edit this on Wikidata
LlinachOrlyk family Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Kosuta (a leolir heddiw yn Oblast Minsk, Belarws), ger Vilnius, yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, i deulu o dras Lithwanaidd a Tsiecaidd. Astudiodd yng ngholeg yr Iesuwyr yn Vilnius ac yn Academi Kyiv-Mohyla. Gwasanaethodd yn ysgrifennydd i Archesgob Kyiv o 1698 i 1700.[1]

Penodwyd Orlyk yn un o uwch-gangellorion milwrol Llu Zaporizhzhia, a gwasanaethodd yn llywodraethwr y Ganghellfa Filwrol Gyffredinol o 1700 i 1706. Fe'i dyrchafwyd yn ganghellor cyffredinol ym 1706, ac felly efe oedd prif gynghorwr yr Hetman Ivan Mazepa. Cynllwyniodd Mazepa ac Orlyk i ymgynghreirio â Sweden yn erbyn Rwsia yn Rhyfel Mawr y Gogledd (1700–21). Yn sgil buddugoliaeth Rwsia ym Mrwydr Poltava (1709), aeth Mazepa ac Orlyk yn alltud yn Nhywysogaeth Moldafia. Wedi marwolaeth Mazepa, etholwyd Orlyk yn Hetman yn Ebrill 1710 ac arwyddwyd Cyfansoddiad Bendery.

Fel Hetman alltud, cydnabuwyd Orlyk gan Frenin Sweden a Swltan yr Ymerodraeth Otomanaidd, ac ymgynghreiriodd â Sweden (Mai 1710) a Chaniaeth y Crimea (1711) mewn ymgais i ryddhau Llu Zaporizhzhia rhag tra-arglwyddiaeth Rwsia. Gyda chefnogaeth yr Otomaniaid, arweiniodd Orlyk fyddin o 16,000 o ddynion, gan gynnwys mintai o Datariaid, i frwydro'n erbyn drefn Rwsiaidd yng Nglan Dde Wcráin. Fodd bynnag, aeth y Tatariaid ar herw ac ysbeiliwyd rhan fawr o Wcráin ganddynt, a chipiwyd nifer o Wcreiniaid yn garcharorion. O'r diwedd, chwalodd y gynghrair rhwng lluoedd Orlyk a'r Otomaniaid yn sgil Cytundeb Prut a arwyddwyd rhwng Rwsia a'r Otomaniaid yng Ngorffennaf 1711.

Aflwyddiannus a fyddain ymdrechion Orlyk ym 1711–14 i ffurfio cynghrair newydd yn erbyn Rwsia. Ar wahoddiad y Brenin Siarl XII, symudodd Orlyk â nifer o'i swyddogion i Sweden ym 1714. Symudasant i'r Almaen ym 1720, ac yn ddiweddarach i Ffrainc. Ym 1722, ar orchymyn y llywodraeth Otomanaidd, ymgartrefodd Orlyk yn Salonika.[1] Symudodd ym 1734 i Budzhak ac o'r diwedd ymsefydlodd ym Moldafia, ac yno yn Jassy (bellach Iași, Rwmania) bu farw Pylyp Orlak yn 69 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 419–20.