Deddf sodomiaeth

(Ailgyfeiriad o Cyfraith sodomiaeth)

Deddf sy'n diffinio gweithredoedd rhywiol penodol fel troseddau ydy deddf sodomiaeth. Anaml y dywed y ddeddf pa weithredoedd rhywiol yn union a olygir wrth y term sodomiaeth, ond gan amlaf cânt eu cymryd i olygu unrhyw weithred rywiol a ystyrir yn annaturiol. Mae'r gweithredoedd hyn yn cynnwys rhyw geneuol, rhyw rhefrol a söoffilia; ar lefel ymarferol anaml y mae'r deddfau hyn wedi cael eu defnyddio yn erbyn cyplau heterorywiol.[1]

Rhyw a'r Gyfraith
Materion Cymdeithasol
Hawliau · Moeseg
Pornograffi · Sensoriaeth
Hilgymysgedd
Priodas hoyw · Homoffobia
Ardal golau coch
Oed cydsynio
Trais · Caethweisiaeth
Moesoldeb gyhoeddus · Normiau
Troseddau penodol
Gall amrywio yn ôl gwlad
Godineb · Llosgach
Llithio
Cyfathrach rywiol gwyrdroedig
Sodomiaeth · Sodomiaeth · Söoffilia
Trosglwyddo troseddol o HIV
Enwaedu
Aflonyddu rhywiol · Anweddusdra cyhoeddus
Adran 63 y DU (2008) · Pornograffi o blant
Ymosodiad rywiol · Treisio · Trais statudol
Camdrin rhywiol (Plant)
Puteindra a Phimpio

Daw nifer o'r deddfau hyn o hen feddylfryd, ac maent yn aml yn gysylltiedig â rheolau crefyddol yn erbyn rhai gweithredoedd rhywiol. Mae cefnogwyr cyfoes o ddeddfau sodomiaeth yn dadlau fod yna resymau eraill dros eu cadw hefyd.

Ceir deddfau sodomiaeth ledled y byd. Heddiw, mae gweithredoedd cydsyniol cyfunrywiol yn anghyfreithlon mewn tua 70 allan o 195 o holl wledydd y byd (oddeutu 35%); mewn 40 o'r gwledydd hyn, dim ond rhyw rhwng dau ddyn sy'n anghyfreithlon.[2] Mae'r nifer hyn wedi parhau i ostwng yn ail hanner yr 20g.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Sullivan (2003-03-24). Unnatural Law. The New Republic. "Since the laws had rarely been enforced against heterosexuals, there was no sense of urgency about their repeal."
  2. ILGA World Legal Survey Archifwyd 2007-08-12 yn y Peiriant Wayback (Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2000, adalwyd 19 Ebrill 2006); diweddariadau o deddfwriaeth ar gyfunrywioldeb yn ôl gwlad.