Golygiad o waith teulu o feirdd o'r 14-15g, wedi'i olygu gan Rhiannon Ifans, yw Gwaith Gruffydd Llwyd a'r Llygliwiaid Eraill. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2000. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Gwaith Gruffydd Llwyd a'r Llygliwiaid Eraill
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddRhiannon Ifans
AwdurGruffudd Llwyd Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 2000 Edit this on Wikidata
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddmewn print
ISBN9780947531164
Tudalennau381 Edit this on Wikidata
GenreLlenyddiaeth Gymraeg
CyfresCyfres Beirdd yr Uchelwyr

Disgrifiad byr

golygu

Teulu o feirdd o Bowys a Meirionnydd oedd teulu'r Llygliwiaid. Canodd Llywelyn ap Gwilym Lygliw ar y testun 'Gweledigaeth Pawl yn Uffern' gan rybuddio yn erbyn dychrynfeydd y byd a ddaw gan annog gwell bywyd yn y byd hwn. Canodd Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw gywydd serch yn gofidio ynghylch swildod y bardd yng ngŵydd ei gariad, a chanodd Hywel ab Einion Lygliw awdl foliant enwog i Fyfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân yn Llangollen. Roedd Hywel ab Einion, un o feirdd pwysicaf Owain Glyndŵr, yn ewythr i Ruffudd Llwyd.

Ceir yma 17 o gerddi o waith Gruffudd Llwyd. Mawrygwyd Gruffudd Llwyd gan ei gyfoeswyr fel bardd serch a chrefydd. Canodd hefyd gerddi i uchelwyr Cymreig, yn eu mysg ddau gywydd mawl i Owain Glyn Dŵr o gyfnod cyn dechrau’r Gwrthryfel ym mis Medi 1400.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013