Llywelyn ap Gwilym Lygliw

Bardd o Gymro oedd Llywelyn ap Gwilym Lygliw (fl. diwedd y 14g - dechrau'r 15g), a oedd yn perthyn i'r Llygliwiaid, teulu o feirdd y cysylltir eu henwau ag ardaloedd Powys a Meirionnydd.[1]

Llywelyn ap Gwilym Lygliw
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ni wyddys dim o gwbl am hanes y bardd. Roedd yn perthyn i'r Llygliwiaid ond ni cheir ei enw ef nac eiddo ei dad yn yr achau.[1]

Un gerdd yn unig o'i waith sydd ar glawr. Yn y rhan fwyaf o'r 24 test ohoni yn y llawysgrifau mae'n cael ei phriodoli i Siôn Cent (15) neu eglwyswr o'r enw Hywel Hir (7), ond ar sail nodweddion mydryddol ac ieithyddol y gerdd mae'r awdurdodaeth hynny yn cael ei gwrthod a thueddir i'w derbyn fel gwaith Llywelyn ap Gwilym Lygliw.[1]

Prif bwnc y cywydd yw gweledigaeth o Uffern gan Pawl yn nhraddodiad cyfarwydd yr Oesoedd Canol lle mae gweledigaethau o'r math yn gyfrwng i rybuddio yn erbyn drychynfeydd y byd yr ochr arall i'r bedd sy'n disgwyl yr annuwiol. Rhagflaenir hyn gan fath o hanes mydryddol o'r Iachawdwriaeth yng Nghrist dros Bum Oes y Byd ac fe'i diweddir gydag adran sy'n disgrifio'r Saith Pechod Marwol a'r llwybr i'r Nefoedd.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill, gol. Rhiannon Ifans (Aberystwyth, 2000)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill, gol. Rhiannon Ifans (Aberystwyth, 2000), Rhagymadrodd
  2. Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill, gol. Ifans