Cyfres Dramâu'r Byd
Cyfres o ddramâu gorau'r byd yw'r cyfieithiadau i'r Gymraeg yn Dramâu'r Byd a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru o 1969 i 1991. Prif olygydd y gyfres oedd yr Athro Gwyn Thomas.
Mae cyfresi eraill fel "Dramâu'r Byd " gan Gwasg Prifysgol Cymru sef "Y Ddrama yn Ewrop", yn ogystal â chyfresi "Dramâu Aberystwyth" gan CAA a "Cyfres yr Academi " gan yr Academi Gymreig.
Rhestr o deitlau yn "Dramâu'r Byd " ac "Y Ddrama yn Ewrop"Golygu
- 1969 Diwéddgan, cyfieithiad gan Gwyn Thomas o Fin de Partie Samuel Beckett
- 1970 Wrth aros Godot, cyfieithiad gan Saunders Lewis o En attendant Godot Samuel Beckett
- 1972 Oidipus Frenin, un o'r Tair Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen (rhan o gyfres Y Ddrama yn Ewrop)
- 1976 Yr Ehedydd cyfieithiad gan Kathleen Parry o L'Alouette Jean Anouilh
- 1978 Caligula gan Albert Camus a gyfieithywd i'r Gymraeg gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan.
- 1979 Gwahoddiad i Ginio, cyfieithiad gan John H. Watkins o Le Rendez-vous de Senlis Jean Anouilh
- 1979 Caeëdig Ddôr, cyfieithiad gan Richard T. Jones o Huis clos Jean-Paul Sartre
- 1979 Oidipus yn Colonos, gan Soffocles, cyfieithiad Euros Bowen
- 1984 Electra, gan Soffocles, cyfieithiad Euros Bowen
- 1991 Miss Julie gan August Strindberg cyfieithwyd gan Glenda Carr a Michael Burns