[Am yr erthygl ar y ddrama wreiddiol gweler En Attendant Godot]

Cyfieithiad Cymraeg Saunders Lewis o'r ddrama En Attendant Godot o 1948/49 yw Wrth aros Godot, gan y dramodydd Gwyddelig Samuel Beckett.[1] Fe gomisiynwyd y cyfieithiad ar gyfer y gyfres ddrama-radio Gymraeg ar BBC Radio 4, Y Ddrama yn Ewrop, a ddarIledwyd dros gyfnod o chwe mis rhwng 15 Tachwedd 1962 a 23 Ebrill 1963.[2] Cyhoeddwyd y cyfieithiad, heb ei newid, fel rhan o Gyfres Y Ddrama yn Ewrop gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1970. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg, o dan y teitl mwy cyfarwydd Waiting for Godot ym 1956 a chyhoeddiad wedi'i "gywiro" ym 1965.

Wrth aros Godot
Dyddiad cynharaf1948/49
AwdurSaunders Lewis a Samuel Beckett
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1970
Pwncdrama
Genredrama lwyfan
CyfresCyfres Y Ddrama yn Ewrop

Drama am ddau gymeriad sydd yma - Vladimir ac Estragon, sy'n trafod a wynebu sawl anturiaeth tra'n aros am Godot. Ond nid yw Godot yn cyrraedd, drwy gydol y ddrama. "Nid dau drempyn digri sydd yma", yn ôl Saunders Lewis, "ond chi a minnau".[3]

Is-deitl y ddrama wreiddiol (yn Saesneg yn unig) oedd 'a tragicomedy in two acts'.[4]

Clawr En attendant Godot (1952)

Mae'r academydd Rhianedd Jewell yn ei chyfrol Her a Hawl Cyfieithu Dramâu Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliére yn gofyn "Ai cyfieithiad yw Wrth [a]ros Godot, ai addasiad yw hi, ynteu destun hollol newydd, creadigaeth Gymraeg sydd yn adlewyrchu tueddiadau dramatig a theimladau personol y dramodydd Cymraeg sefydledig, Saunders Lewis?".[2]

Cefndir

golygu

Cyfansoddwyd y testun Ffrangeg gwreiddiol rhwng 9 Hydref 1948 a 29 Ionawr 1949. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf ar 5 Ionawr 1953 yn Théâtre de Babylone ym Mharis. Perfformiwyd y fersiwn Saesneg am y tro cyntaf yn Llundain ym 1955.[5]

Cafwyd astudiaeth manwl o Wrth aros Godot yn nghyfrol Rhianedd Jewell Her a Hawl Cyfieithu Dramâu Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliére. "O edrych ar y cyfieithiad yn fanwl, gwelwn ddau beth allweddol", noda Jewell: "y mae'r theori domestigeiddio, dull cyfieithu a rydd bwyslais ar anghenion y gynulleidfa darged, yn hydreiddio'r ail gyfieithiad, ac y mae ôl llaw Saunders, y cyfieithydd, y dramodydd a'r gwleidydd, i'w weld yn glir ar y testun." Mae Jewell yn cwestiynu "i ba raddau y mae Saunders yn cadw o fewn cyfyngiadau cyfieithu."[2]

O ystyried natur dramâu eraill Saunders Lewis, mae RJ yn synnu pam y byddai "wedi dewis trosi gwaith Ilwm fel hwn [...] [ac] ystyrir y brif elfen sy'n clymu Saunders a Beckett ynghyd, sef eu diddordeb mewn iaith, ei gallu neu ei hanallu i gyfathrebu, a'i rôl mewn drama ac mewn cymdeithas." Noda bod "tro ar fyd yn y theatr Gymraeg" yn y cyfnod pan oedd Saunders yn cyfieithu [1950au - 1960au].Yn wahanol i'w gyfieithiad o waith Molière [Doctor ar ei Waethaf], "Dewis drama un o'i gyfoedion a wnaeth Saunders y tro hwn, drama a oedd yn torri tir theatraidd newydd yn ystod ei fywyd ef [...] Sylweddolodd fod y ddrama yn dal i esblygu a thrawsnewid ar y cyfandir tra'i bod newydd egino i raddau yng Nghymru." Gobeithiai y byddai hyn yn ysgogi diddordeb ymysg y Cymry tuag at theatr yr absẃrd, fel y digwyddodd i'r dramodydd ei hun, gan iddo gyfansoddi'r ddwy ddrama Yn y Trên a Cell y Grog yn fuan wedyn.[2]

Nodwedd amlwg arall sy'n gwahaniaethu'r cyfieithiad Cymraeg o'r Saesneg, ydi hyd y ddrama. Eglura RJ fod Beckett ei hun "wedi dewis dileu darnau a ystyriai yn anodd eu trosi [o'r Ffrangeg i'r Saesneg] neu'n ddiangen wedi iddo ailfeddwl [...] Fel dramodydd yn ei rinwedd ei hun, gallai Saunders hawlio'r un rhyddid ag a hawliai Beckett ei hun wrth gyfieithu, gan arddangos ei ddehongliad o'r ddrama a'i ddealltwriaeth drylwyr o'r iaith Gymraeg."[2]

Crefydd

golygu

Synna Rhianedd Jewell, yn ogystal â'r academydd Bruce Griffiths mai "drama mor amwys ei hagwedd at ffydd a chrediniaeth (nid, oes sicrwydd y daw Godot byth)" y dewisiodd Saunders i'w chyfieithu / addasu.[2]

"Geirfa Brotestannaidd" Wesleath Iwerddon yw "geirfa grefyddol y ddrama" yn ôl Saunders Lewis, yn ei Ragair i'r cyhoeddiad Cymraeg ym 1970.[3] "y Beibl; y Ceidwad; gwnaeth Iesu hynny; wyt ti'n meddwl fod Duw yn 'y ngweld i; Rydw i'n cofio map o'r Ddaear Santaidd yn y Beibl a'r Môr Marw a'i liw yn ysgafn las." eglura Saunders. "Thema grefyddol [...] Galfinaidd" sydd i'r ddrama hon, a disgwyl am "Geidwad" neu "Achubwr" mae'r ddau gymeriad, am na "allant eu hachub eu hunain".[3] Cyfeiria hefyd at y gymhariaeth rhwng cymeriadau'r ddrama hon â disgrifiad William Williams, Pantycelyn o gyflwr Theomemphus cyn pregeth Evangelius yn Bywyd a Marwolaeth Theomemphus o'i enedigaeth i'w fedd (1764):

"Rhaid i mi gael y cwbl, rhaid i mi ei gael e'n rhad,
Mae'n rhaid i Dduw heddychu â'r euog yn ei waed;
Rhaid iddo ddod ei hunan yn rhad at Theo' wan,
On'te mae'n sicr ddigon na cho'd e byth ir lan."

Ond yn y ddrama, "bachgennyn" ddaw at y ddau sy'n aros, ac nid Evangelius na Godot chwaith.[3]

"Gellir dadlau mai ei fwriad drwy gyfieithu'r ddrama lom hon oedd ei harddangos i'r darllenydd / gwyliwr (neu yn yr achos hwn, y gwrandäwr) mewn ffordd wahanol a'i thrawsnewid yn ddrama grefyddol gadarnhaol", awgryma Rhianedd Jewell.[2] "Efallai mai ei amcan oedd trafod yr un amheuon yr oedd ef ei hun yn eu hwynebu'n gyson, gan gynnig atebion posibl iddynt a chan, felly, greu gobaith a goleuni mewn drama dywyll iawn."[2]

Er mwyn profi mai "dynion [...] truenus" ydynt, cyfeiria Saunders Lewis at y ffaith bod y ddau yn sôn am y bardd Rhufeinig Catullus, ac yn dyfynnu o Dante Aligheri, Françoise Pascal a Pablo Picasso, a bod Vladimir yn "canu cyfieithiad o rigwm Almaeneg enwog, Der Mops kam in die Kuche, a bod hyd yn oed Pozzo'n cyfeirio'n fynych at chwedloniaeth Roeg."[3]

 
Hysbyseb cynhyrchiad 2010 gyda'r Cymro Roger Rees

Noda hefyd bod dylanwad Charlie Chaplin ar y ddrama, am fod "beirdd ac athronwyr" Ffrainc wedi ei gymeryd "...i'w calonnau a gwelwyd ynddo ef, yn ei ddigrifwch torcalonnus, wir gynrychiolydd y ddynoliaeth".[3] Y cymeriad digri hwn roes i'r ddau y ddelwedd o wisgo'r hetiau a'r esgidiau truenus.

"Pasio amser" yw diben y cymeriadau eraill, yn ôl Saunders Lewis.[3] "I Mr. Beckett yr hyn sy'n wir mewn Calfiniaeth yw ei hathrawiaeth am gyflwr dyn. Y mae hynny'n ddinewid."


Yn 2001, pan gafodd yr ail "gasgliad cyflawn" o Ddramâu Saunders Lewis eu cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, [golygydd Ioan M Williams] beirniadwyd y gyfrol gan gan Ifor ap Dafydd ar wefan Gwales, am beidio cynnwys y cyfieithiad yma, yn un o'r ddwy gyfrol swmpus: "Mewn casgliad mor gynhwysfawr, mae’n dipyn o syndod serch hynny na chynhwyswyd trosiad Lewis o ddrama Beckett, Wrth Aros Godot. Mae hwn yn odrwydd sy’n peri penbleth ac yn mennu braidd ar is-deitl y llyfr o gofio bod yma hefyd nodiadau ar gyfer dramâu anorffenedig." [5].

Mewn arolwg barn a gynhaliwyd gan y [Royal] National Theatre ym 1998/99, fe’i dewisiwyd fel y “ddrama Saesneg fwyaf arwyddocaol o'r 20fed ganrif”. [6]

Cawn ei cyflwyno i'r ddau brif gymeraid, Vladimir ac Estragon, sy'n cyfarch ei gilydd fel 'Didi' a 'Gogo', tra'n aros am 'Godot'. Daw dau ddieithryn arall atynt, y teithiwr a'r tirfeddianwr 'Pozzo' a'i wâs neu'r "mochyn" 'Lucky', sydd ar dennyn hir. Mae ymweliad y ddau yn "pasio amser" i'r ddau brif gymeriad, cyn i 'fachgennyn' ifanc ddod i'w hysbysu na fydd Godot yn galw heddiw. Mae Vladimir ac Estragon yn cyhoeddi y byddan nhw hefyd yn gadael, ond maen nhw'n aros ar y llwyfan heb symud.

Act II

golygu

Mae Vladimir ac Estragon unwaith eto yn aros ger y goeden, sydd wedi tyfu nifer o ddail ers diwedd Act 1. Mae'r ddau yn dal i aros am Godot. Mae Lucky a Pozzo yn ailymddangos, ond nid fel yr oeddent o'r blaen. Mae Pozzo wedi mynd yn ddall ac mae Lucky bellach yn gwbl fud. Ni all Pozzo gofio erioed iddo gwrdd â Vladimir ac Estragon, ac ni allant gytuno ar y tro diwethaf iddynt weld y teithwyr. Mae Lucky a Pozzo yn gadael yn fuan ar ôl eu cyfarfyddiad bywiog, gan adael Vladimir ac Estragon i aros eto.

Maes o law, dychwela'r bachgen hefyd, gan eu hysbysu eto na fydd Godot yn ymweld â nhw. Mae'r bachgen yn eu darbwyllo mai dyma'r tro cyntaf iddynt gwrdd, ac mai nid ef oedd y bachgen fu'n siarad â Vladimir ddoe. Mae hyn yn gwylltio Vladimir gan fynnu bod y bachgen yn ei gofio yfory, er mwyn osgoi'r ailadrodd. Ar ôl i'r bachgen adael, mae Vladimir ac Estragon yn ystyried hunanladdiad, ond nid oes ganddynt raff i hongian eu hunain. Maent yn penderfynu ymadael a dychwelyd drannoeth gyda rhaff.

Cymeriadau

golygu
  • Vladimir
  • Estragon
  • Pozzo
  • Lucky
  • Bachgennyn

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu

Fel nodwyd eisoes, comisiynwyd a darlledwyd y ddrama am y tro cyntaf gan y BBC fel drama radio, ar y 15 Tachwedd 1962. Cynhyrchydd [cyfarwyddwr] Emyr Humphreys.[2] Cast:

1970au

golygu

Llwyfannwyd y cyfieithiad Cymraeg am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ym 1970; cyfarwyddwr T James Jones; cast: Huw Ceredig, Ernest Evans, Lyn Rees a Sulwyn Thomas.

1980au

golygu

Llwyfannwyd addasiad o'r ddrama Gymraeg gan gwmni Theatrig ym 1988 gyda Rhys Powys yn cyfarwyddo. Gelwid y cynhyrchiad yn Godot.[7]

2000au

golygu

Cafwyd llwyfaniad o'r ddrama gan Ysgol Penweddig ym 2008. cast: [8]

  • Vladimir - Lisa Jones
  • Estragon - Cynan Llwyd
  • Pozzo - James Hancock-Evans
  • Lucky - Euros Jones
  • Bachgennyn - Tomos Hopkins

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan y Llyfrgell Brydeinig". bll01.primo.exlibrisgroup.com (yn Saesneg). 2024. Cyrchwyd 2024-10-05.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 2.8 Jewell, Rhianedd (2017). Her a Hawl Cyfieithu Dramâu Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliére. Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Lewis, Saunders (1970). Wrth aros Godot. Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. Le Nouvel Observateur. Calder Publications. 26 Medi 1981.
  5. 5.0 5.1 "www.gwales.com - 9780708311837, Dramâu Saunders Lewis - Y Casgliad Cyflawn (Cyfrol 2)". www.gwales.com. Cyrchwyd 2024-09-24.
  6. Beidler (2022). The great beyond: art in the age of annihilation. The University of Alabama Press.
  7. Rhaglen cynhyrchiad Theatrig o Hamlet. 1988.
  8. "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-23.