Mae Soliman neu Slimane yn dref ger yr arfordir yn Nhiwnisia a leolir yn ne-orllewin Cap Bon (45 km au i'r de-ddwyrain o Diwnis).

Soliman
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth44,672 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1610 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNabeul Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.695126°N 10.491257°E Edit this on Wikidata
Cod post8020 Edit this on Wikidata
Map

Mae'n rhan o dalaith (gouvernorat) Nabeul, ac mae'n ganolfan i ardal (délégation) o 41,846 o bobl (2006) a bwrdeisdref o 29,060.

Mae Soliman yn gorwedd yng nghanol gwastadedd ffrwythlon, ac mae'n ganolfan masnachu cynnyrch y tir amethyddol oddi amgylch. Yn ogystal mae'n ganolfan diwydiannol gyda ffatrioedd sy'n cynyrchu rhannau ceir a deunydd gwaith adeiladu. Mae'n groesffordd bwysig gyda nifer o wasanethau bws yn rhedeg ohoni.

Pum cilometr i'r gogledd ceir traeth atyniadol, ar lan Gwlff Tiwnis, sy'n cynnig golygfeydd hardd.

Cafodd y dref ei sefydlu, at ddechrau'r 16g, gan filwyr Twrcaidd pan fu Tiwnisia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i henwir ar ôl tirfeddianwr Tyrcaidd lleol (Soliman/Slimane = 'Solomon/Selyf'). Ychwanegwyd at ei hetifeddiaeth gan mewnfudwyr o Andalucía, Sbaen, a elwir yn Forisgiaid.

"Digwyddiad Soliman" golygu

Ar 3 Ionawr 2007, gorffenodd cyrch gan lluoedd diogelwch Tiwnisia yn erbyn pobl a ddisgrifwyd fel "terfysgwyr Islamaidd" mewn saethu a cholli bywydau. Roedd hyn yn sioc i bobl y wlad, sydd wedi bod yn gymharol rydd o ddigwyddiadau o'r fath yn y gorffennol. Mae adroddiadau am y digwyddiad yn gymysg. Yn ôl rhai ffynonellau roedd y grŵp yn cynnwys sawl dyn o Algeria a chredir gan rai fod cysylltiad â'r grŵp terfysgol Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd (enw newydd y GSPC Salafaidd) sydd wedi bod yn weithgar yn Algeria ac, efallai, ym Moroco. Ond yn ôl ffynhonnell arall, anwysddogol, roeddynt i gyd yn Diwnisiaid ifainc tua 20-25 oed. Roeddent yn bwriadu ymosod ar lysgenhadaethau Israel a'r Unol Daleithiau a sawl targed arall yn Nhiwnis ac roedd ganddynt nifer o arfau, yn cynnwys drylliau kalashnikov a rocedi. Bu brwydr fawr mewn fila ar gyrion Soliman a lladdwyd tua dwsin o'r terfysfgwyr gan y llu o heddweision ac asiantau diogelwch a amgylchynasai'r adeilad[1].

Cyfeiriadau golygu