Cyfunrywioldeb mewn pêl-droed
Roedd homoffobia unwaith yn gyffredin mewn pêl-droed proffesiynol, yn enwedig ym mhêl-droed dynion. Roedd y chwaraewr NBA cyntaf i ddod allan fel hoyw, John Amaechi, unwaith yn beio diwylliant "gwenwynig" am ddiffyg chwaraewyr hoyw agored, tra bod cyn-bêl-droediwr Lloegr, Clarke Carlisle, wedi galw am fwy o addysg i frwydro yn erbyn homoffobia mewn pêl-droed. Ym mis Chwefror 2013, honnodd y cylchgrawn pêl-droed When Saturday Comes fod cyfunrywioldeb yn dal i fod yn dabŵ ym mhêl-droed dynion proffesiynol.[1]
Digwyddiadau homoffobig mewn pêl-droed
golyguBrasil
golyguAr un adeg cyfeiriwyd at y pêl-droediwr o Frasil Richarlyson fel "hoyw" gan reolwr tîm cystadleuol. Pan gymerodd gamau cyfreithiol, fe wnaeth y barnwr daflu'r gŵyn, gan honni bod "pêl-droed yn gamp wrywaidd ac nid yn un cyfunrywiol".[2]
Bwlgaria
golyguYn 2006, cyfeiriodd Todor Batkov, llywydd PFC Levski Sofia, clwb pêl-droed o Fwlgaria, at y dyfarnwr Mike Riley fel "cyfunrywiol Prydeinig". Fe ddigwyddodd ar ôl i Riley anfon Cedric Bardon i ffwrdd yn ddadleuol yn ystod gêm chwarterol Cwpan UEFA yn erbyn Schalke 04.
Y Deyrnas Unedig
golyguLloegr
golyguBu sawl digwyddiad o homoffobia, yn enwedig llafarganu homoffobig, ym mhêl-droed Lloegr.
Ym 1990, cyfeiriwyd at y pêl-droediwr Prydeinig Justin Fashanu, y pêl-droediwr proffesiynol cyntaf i ddod allan fel hoyw, gan ei reolwr fel "blydi pwff".[3]
Cyhoeddodd y sefydliad hawliau LHDT Prydeinig Stonewall adroddiad ym mis Awst 2009 a oedd yn galw pêl-droed Lloegr yn "homffobig sefydliadol".
Mae siantiau homoffobig wedi cael eu recordio sawl gwaith ym mhêl-droed Lloegr. Mae siantiau homoffobig hefyd wedi'u targedu at chwaraewyr heterorywiol.[4]
Ym mis Rhagfyr 2011, cafodd cefnogwr o Southampton FC ei wahardd am dair blynedd oherwydd llafarganu homoffobig.[5]
Ym mis Ebrill 2014, cafwyd y pêl-droediwr Colim Kazim-Richards yn euog o wneud ystum homoffobig tuag at gefnogwyr Brighton FC.[6]
Ym mis Rhagfyr 2021, cafodd chwaraewr Walsall FC, Manny Monthe, ei wahardd am saith gêm oherwydd sylw homoffobig a wnaeth yn ystod gêm.[7]
Ym mis Ionawr 2022, dywedodd y rheolwr pêl-droed Ian Holloway ei fod yn teimlo bod pêl-droed Lloegr yn homoffobig ar ôl canu homoffobig gan gefnogwyr Spurs FC mewn gêm yn erbyn Chelsea FC.[8]
Rhestr o bêl-droedwyr LHD
golygu- Gweler hefyd: Categori:Peldroedwyr LHDT
Gwryw
golyguEnw | Gwlad | Gyrfa | Blwyddyn o ddod allan |
---|---|---|---|
Justin Fashanu | Lloegr | 1978-1997 | 1990 |
Thomas Berling | Norwy | 1999-2001 | 2001 |
Olivier Rouyer | Ffrainc | 1973-1998 | 2008 |
Anton Hysén | Sweden | 2008- | 2011 |
David Testo | Unol Daleithiau | 2003-2011 | 2011 |
Robbie Rogers | Unol Daleithiau | 2005-2017 | 2013 |
Thomas Hitzlsperger | Almaen, Yr | 2001-2013 | 2014 |
Liam Davis | Lloegr | 2009- | 2014 |
Phuti Lekoloane | De Affrica | 2010- | 2015 |
Collin Martin | Unol Daleithiau | 2013- | 2018 |
Matt Pacifici | Unol Daleithiau | 2016 | 2019 |
Andy Brennan | Awstralia | 2010- | 2019 |
Thomas Beattie | Lloegr | 2008-2015 | 2020 |
Stephen Laybutt | Awstralia | 1995-2010 | 2020 |
Josh Cavallo | Awstralia | 2017- | 2021 |
Benyw
golyguEnw | Gwlad | Gyrfa | Blwyddyn o ddod allan |
---|---|---|---|
Megan Harris | Lloegr | ? | ? |
Casey Stoney | Lloegr | 1994-2018 | 2014 |
Mapi León | Sbaen | 2009- | 2018 |
Nilla Fischer | Sweden | 1998- | ? |
Marta | Brasil | 2000- | ? |
Jess Fishlock | Cymru | 2002- | ? |
Sam Kerr | Awstralia | 2008- | ? |
Toni Pressley | Unol Daleithiau | 2008- | ? |
Michelle Heyman | Awstralia | 2008- | ? |
Angharad James | Cymru | 2010- | ? |
Chloe Logarzo | Awstralia | 2011- | ? |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://web.archive.org/web/20130306055459/http://www.wsc.co.uk/wsc-daily/1158-february-2013/9476-the-continuing-taboo-of-homosexuality-in-football
- ↑ http://news.bbc.co.uk/2/hi/americas/6930806.stm
- ↑ https://web.archive.org/web/20191209155317/http://www.timesonline.co.uk/tol/sport/football/article870292.ece
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/47049643
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-england-hampshire-16011008
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-england-26960629
- ↑ https://www.bbc.com/sport/football/59685469
- ↑ https://www.bbc.com/sport/football/60113865