Cytser yw Cygnus sy'n cynnwys rhan ogleddol o'r Llwybr Llaethog yn yr awyr nos. Mae'r enw yn golygu ‘alarch’ yn Lladin, ac yn cael ei ynganu fel y Gymraeg ‘signws’. Oherwydd nifer o sêr eithaf disglair sy'n weladwy i'r llygad noeth, mae Cygnus yn rhan nodedig o'r wybren yn ystod nosweithiau'r haf o'r hemisffêr y gogledd y byd.

Cygnus
Enghraifft o'r canlynolcytser Edit this on Wikidata
Rhan oNorthern celestial hemisphere Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Cygnus yn dangos sêr sydd yn weladwy i'r llygad noeth, a hefyd, yn llwydlas, y Llwybr Llaethog
Cytser Cygnus fel alarch yn hedfan mewn fersiwn Ffrengig 1776 o Atlas Coelestis y seryddwr John Flamsteed

Hanes a mytholeg golygu

Gelwir y cytser ar ôl y gair Lladin am alarch oherwydd yr oedd pobl y byd clasurol yn gweld patrwm alarch yn hedfan. Cysylltwyd y cytser â sawl chwedl am alarch ym mytholeg Roeg. Mewn un o'r rhain, dyma'r ffurf alarch y gwnaeth Zeus ei defnyddio i ymweld â Leda.

Roedd Cygnus un o'r 48 cytser ar restr yr athronydd Ptolemi yn yr ail ganrif. Heddiw mae Cygnus un o'r 88 cytser y gwnaeth yr Undeb Seryddol Rhyngwladol eu cydnabod yn swyddogol ym 1922.

Y seren gyntaf i gael ei phellter oddi wrth Gysawd yr Haul wedi ei chyhoeddi oedd 61 Cygni, seren ddeuol yn Cygnus. Ym 1838 cyhoeddodd y seryddwr Almaeneg Wilhelm Bessell ei fesur o baralacs 61 Cygni, ychydig cyn i Otto Struve a Thomas Henderson gyhoeddi eu mesuriadau o Vega a Alffa Centauri.[1]

Un o'r ffynonellau radio cyntaf i gael eu darganfod y tu allan i Gysawd yr Haul oedd Cygnus A, galaeth weithredol bell o Alaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni. Mae Cygnus X-1 un o'r ffynonellau pelydr X cryfaf yn y wybren, a ddarganfuwyd yn 1962. Credir iddi fod yn seren fasfawr yn cylchdroi o amgylch twll du.[1]

Natur y cytser golygu

 
Seren ddeuol Albireo, neu β Cygni, recordiwyd trwy delesgop yn dangos y ddwy seren gyda lliwiau gwahanol

I'r llygad noeth, mae sêr disglair Cygnus yn amlinellu siâp croes gyda'r seren ddisgleiriaf, Deneb neu Alffa Cygni (α Cyg), wrth ben y groes. Mae Deneb a'r sêr disglair Vega ac Altair yng nghytserau cyfagos yn ffurfio triongl yn y wybren. Ar droed y groes, neu ben yr alarch, mae Albireo, Beta Cygni (β Cyg), sydd yn seren ddwbl, hawdd i'w hymwahanu mewn telesgop bach. O ddiddordeb y mae'r ffaith bod gan y ddwy seren liwiau gwahanol, un yn oren a'r llall yn las.[1]

Mae'r enwau hyn yn deillio o hen enwau, neu ddisgrifiadau, Arabaidd, a maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ambell iaith.[2] Mae'r llythrennau Groeg α (Alffa), β (Beta), ac ati, yn cael eu defnyddio hefyd yn ôl cyfundrefn yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. Cyg ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser. Defnyddnir Cygni gyda'r lythyren Roeg Bayer i olygu bod seren yn perthyn i'r cytser yn ôl rheolau gramadeg Lladin.

 
Llun eang o Cygnus yn dangos nifer o nifylau (pinc) a chymylau o nwy a llwch oer (tywyll)

Mae'r cyhydedd galaethol, sef gwastadeddd canolog yr Alaeth, yn mynd trwy ganol y cytser. Felly mae'r Llwybr Llaethog yn llenwi Cygnus, ac o ganlyniad mae nifer fawr o glystyrau sêr a nifylau i'w gweld ynddo. Mae'r Llwybr Llaethog yn ddisglair yn y rhan hon o'r wybren, ac yn afreolaidd mewn lleoedd oherwydd presenoldeb cymylau o nwy a llwch oer sydd yn amsugno golau sêr sydd tu ôl iddynt.

Clystyrau sêr, nifylau a ffurfiant sêr golygu

 
Delwedd o Nifwl Gogledd America (canol) a'r Nifwl Pelican (ar y dde) wedi'i greu o ffotograffau o delesgopau arolwg
 
Rhan o Nifwl y Llen, gweddill uwchnofa

Mae Cygnus yn rhan o'r Llwybr Llaethog lle mae cymylau o nwy oer yn crebachu dan eu disgyrchiant eu hunain i ffurfio sêr. Mae'r sêr newydd hyn yn ffurfio mewn clystyrau. Ymhlith y clystyrau sêr yn Cygnus, Messier 39 (M39, neu NGC 7092) a Messier 29 (M29, neu NGC 6913) yw'r fwyaf adnabyddus.[1]

Mae sêr newydd o fàs uchel yn cynhyrchu llawer o olau uwchfioled sydd yn gallu ïoneiddio'r nwy o'u hamgylch i greu parthau HII. Mae'r nwy poeth hyn yn disgleirio ac yn weladwy fel nifylau.

Ymhlith y nifylau yn Cygnus yw'r Nifwl Gogledd America neu NGC 7000, sydd yn barth HII gyda siâp Gogledd America. Yn wahanol iawn, gweddill uwchnofa yw Nifwl y Llen, sydd yn ymddangos yn ddwy ran, NGC 6960 a NGC 6992.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 2. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23568-8. Tud. 735–816. (Yn Saesneg.)
  2. IAU Division C Working Group on Star Names (2016). "IAU Catalog of Star Names". Cyrchwyd 26 Hydref 2016. Unknown parameter |author-url= ignored (help) (Catalog swyddogol enwau traddodiadol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.