Cylchred bywyd
(Ailgyfeiriad o Cylch bywyd)
Cylchred bywyd neu ar lafar gwlad cylch bywyd yw'r cyfnod hwnnw sy'n cwmpasu holl genhedlaethau rhywogaeth arbennig a gychwynir drwy atgenhedlu; ffurfir y "cylch" pan fo'r atgenhedlu'n cael ei basio ymlaen i'r genhedlaeth nesaf e.e. mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn (sef y glöyn byw gydag adenydd.
O ran dyn, ceir y cyfnodau: ŵy, babi, plentyn, glasoed ac oedolyn.
O ran newidiadau ploidy ceir 3 math o gylchred:
- haplontig
- diplontig
- diplobiontig (neu haplodiplontig)