Cylchred carbon
(Ailgyfeiriad o Cylchred Garbon)
Cylchred biogemegol yw'r cylchred carbon, sef y ffordd mae atomau carbon yn cael eu hailgylchu yn yr amgylchedd (biosffer, geosffer, hydrosffer ac atmosffer), ar y ddaear.
Mae carbon ym mhob ran o'r amgylchedd: Fel carbon deuocsid yn yr aer, fel protestiad, carbohydradau neu proteinau mewn planhigion ac anifeiliaid ac fel tanwyddau ffosil mewn gwaddodion, e.e. glo, olew neu nwy. Mae carbon yn cael ei ailgylchu o ganlyniad i brosesau cemegol, ffisegol, daearegol a biolegol, e.e. ffotosynthesis, resbiradaeth