Cymdeithas Adeiladu'r Principality
Cymdeithas adeiladu Gymreig yw Cymdeithas Adeiladu'r Principality (Saesneg: Principality Building Society), hefyd yn cael ei adnabod fel Y Principality, a'i ganolfan yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Gydag asedau o £9bn y Principality yw'r gymdeithas adeiladu fwyaf yng Nghymru a'r chweched gymdeithas fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn gydfuddiannol, sy'n golygu ei fod yn berchen i'w aelodau yn hytrach na chyfranddalwyr. Mae'n darparu gwasanaethau i'w gleientiaid ar y we, dros y ffôn yn ogystal â drwy ganghennau stryd fawr. Mae'n aelod o Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu.
Math | busnes |
---|---|
Diwydiant | banc |
Sefydlwyd | 1860 |
Pencadlys | Caerdydd |
Gwefan | https://www.principality.co.uk |
Hanes
golyguFe'i sefydlwyd yng Nghaerdydd yn 1860 gan William Sanders fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol.[1] Yn 1914 adeiladwyd Adeiladau'r Principality fel pencadlys y gymdeithas ac mae'r brif swyddfa yno hyd heddiw. Prynwyd nifer o gymdeithasau adeiladu lleol gan y Principality yn y 1970au a fe'i cyfunwyd i'r gymdeithas. Yn 1987 prynodd y Principality asiantau tai Parkhurst a Peter Alan estate agents, ac yn 2014 fe werthwyd yr asiantau cyfunedig i Connells Group am £16.4m.[2] Yn 1989 prynwyd safle drws nesaf i'r pencadlys yn Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer swyddfeydd newydd wrth i'r cwmni ehangu ac fe agorwyd Tŷ'r Principality yn 1992.[3][4]
Prynodd Principality y cwmni Loan Link Limited yn 2004. Rhoddodd hyn y cyfle i lansio'r is-gwmni Nemo Personal Finance Ltd yn 2005. Yn 2013 prynwyd Mead Property Services (yn gwasanaethu Swydd Buckingham, Berkshire a Swydd Rydychen) a Thomas George (yn gwasanaethu Caerdydd a de Cymru).
Ar 8 Medi 2015 cyhoeddodd Cymdeithas Adeiladu'r Principality eu bod wedi prynu hawliau enwi Stadiwm y Mileniwm mewn cytundeb 10 mlynedd. O 1 Ionawr 2016 enw'r stadiwm fydd Stadiwm y Principality[5]
Mae Prif Weithredwr Grŵp y Principality, Graeme Yorston, hefyd yn Llysgennad Tywysog Cymru dros Fusnes Cyfrifol.[6] Penodwyd Steve Hughes yn Prif Weithredwr newydd o Mawrth 2017.[7]
Cyfuniadau a chaffaeliadau
golyguFe gyfunwyd y cymdeithasau adeiladau canlynol fewn i Gymdeithas Adeiladu'r Principality:
- Cymdeithas Adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr yn 1959
- Cymdeithas Adeiladu Urban yn 1962
- Cymdeithas Adeiladu Barhaol Maesteg yn 1968
- Cymdeithas Adeiladu Cydfuddiannol Parhaol Aberafan yn 1974
- Cymdeithas Adeiladu Abertawe a Chaerfyrddin yn 1974
- Cymdeithas Adeiladu Barhaol Llanelli yn 1977
- Cymdeithas Adeiladu District yn 1978
- Cymdeithas Adeiladu Gorseinon yn 1979
- Cymdeithas Adeiladu Chatham yn 1985
Gweithrediadau
golyguMae gan y gymdeithas dros 70 o ganghennau ar draws Cymru a rhai dros y ffîn yn Lloegr, ac yn cyflogi tua 1,250 o bobl. Yn 2005 fe ehangodd i ddarparu benthycion personol drwy greu cwmni newydd Nemo Personal Finance Ltd. Yn yr un flwyddyn a chreu Benthycion Nemo, fe ailwampiwyd delwedd y Principality. Enillodd 'Busnes y Flwyddyn 2005' ar gyfer Cymru a De-orllewin Lloegr yng Ngwobrau Busnes Cenedlaethol y DU. Cynyddodd asedau'r grŵp o £4.4bn yn 2005 i £7.3bn yn 2015.
Is-gwmnïau
golygu- Nemo Personal Finance
- Mead Property Management
- Thomas George Lettings Agent
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A CARDIFF & VALE OF GLAMORGAN CHRONOLOGY, Angelfire.com
- ↑ "Peter Alan Poised for Growth Under new owner". Newsco Insider Limited. 28 Awst 2014. Cyrchwyd 27 Medi 2015.
- ↑ "Mergers and Name Changes" (PDF). Extract from BSA Yearbook 2013/14. Building Societies Association. 4 Hydref 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-11-09. Cyrchwyd 2 December 2013.
- ↑ "Our History". principality.co.uk. Cyrchwyd 2016-03-27.
- ↑ "Millennium Stadium to be renamed Principality Stadium in historic naming rights deal with WRU". Wales Online. Cyrchwyd 27 Medi 2015.
- ↑ "Principality appoints Graeme Yorston as new Group Chief Executive". Principality Building Society=01 Awst 2012. 13 Hydref 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-22. Cyrchwyd 2016-04-01.
- ↑ New chief executive for the Principality Building Society (en) , WalesOnline, 3 Chwefror 2017.