Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl

Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl wedi annibyniaeth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf

Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl (Pwyleg: Polski Związek Piłki Nożnej; PZPN) yw corff llywodraethu pêl-droed yng Ngwlad Pwyl. Mae'n trefnu cynghreiriau pêl-droed Gwlad Pwyl (heblaw yr Ekstraklasa), Cwpan Gwlad Pwyl a thîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl. Mae wedi'i leoli ym mhrifddinas y wlad, Warsaw.

Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd20 Rhagfyr 1919; 104 o flynyddoedd yn ôl (1919-12-20)[1]
Aelod cywllt o FIFA20 Ebrill 1923; 101 o flynyddoedd yn ôl (1923-04-20)
Aelod cywllt o UEFA2 Mawrth 1955; 69 o flynyddoedd yn ôl (1955-03-02)
LlywyddCezary Kulesza
Gwefanpzpn.pl
 
Awdurdodau PZPN yn 1927: o'r chwith, Uwchgapten Maryan Esman (is-lywydd), Edward Cetnarowski (llywydd) a Wacław Wojakowski (ysgrifennydd cyffredinol)

Cyn i Wlad Pwyl ennill ei hannibyniaeth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl oedd yn cynnwys Pwyliaid talaith Galicia oedd yn rhan o Ymerodraeth Awstria-Hwngari ond nad oedd â statws ryngwladol llawn o fewn FIFA (gan i Gymdeithas Bêl-droed Awstria wrthwynebu).[2]

Sefydlwyd y ffederasiwn cwbl annibynnol ar 20 Rhagfyr 1919 gan amlyncu'r Undeb Pêl-droed Pwylaidd ymreolaethol (PFU) a oedd yn rhan o Undeb Pêl-droed Awstria a oedd wedi chwalu. Sefydlwyd y PFU ar 25 Mehefin 1911[3] yn Lwów yn Ymerodraeth Awstria-Hwngari, sef Lviv yn Wcráin bellach. Rhwng 1911 a 1919 chwaraeodd tîm cenedlaethol Gwlad Pwyl dair gêm yn stadiwm Czarni Lwów. Roedd y tîm yn cynnwys chwaraewyr o ddinas Lwów yn bennaf.

Pan oresgynnodd y Wehrmacht Wlad Pwyl ym mis Medi 1939, diddymwyd yr holl sefydliadau a chymdeithasau Pwylaidd, gan gynnwys y PZPN. Gwaharddodd lluoedd meddiannaeth yr Almaen y Pwyliaid i drefnu gemau pêl-droed.[4]

Hunan-ddiddymiad 1951

golygu

Ar 4 Chwefror 1951, yn seiliedig ar benderfyniad a fabwysiadwyd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl yn Warsaw, diddymwyd y Gymdeithas a sefydlwyd yr Adran Bêl-droed fel sefydliad cymdeithasol oedd yn eilradd i'r Prif Bwyllgor Diwylliant Corfforol. Nid penderfyniad annibynnol Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl oedd diddymu eu hunan, ond penderfyniad gwleidyddol plaid ac awdurdodau gwladwriaeth Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl (gweriniaeth Gomiwnyddol oedd yn rhan o'r Bloc Comiwnyddol) pan oedd Staliniaeth ar ei hanterth yng Ngwlad Pwyl, cyfnod pan oedd holl strwythurau'r wladwriaeth yn dod yn debyg i fodelau'r Undeb Sofietaidd. Yna mabwysiadwyd penderfyniadau union yr un fath gan awdurdodau pob cymdeithas chwaraeon, a ddaeth yn bwyllgorau yn GKKF (Główny Komitet Kultury Fizycznej; Prif Bwyllgor Diwylliant Corfforol).

Disodlodd SPN GKKF Gymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl yn ffurfiol ym mhob gweithgaredd oedd yn ymwneud â phêl-droed, gan ddod yn enwog am lawer o syniadau a drawsblannwyd o'r Undeb Sofietaidd,gan gynnwys dyfarnu teitl Pencampwr Gwlad Pwyl yn 1951 nid i enillydd Cynghrair Cyntaf Gwlad Pwyl, ond i enillydd y Cwpan Pwyleg.

Ar 9 Rhagfyr 1956, yn ystod Plenum Adran Bêl-droed GKKF yn Warsaw, ar gais Presidium y SPN GKKF, diddymwyd y sefydliad hwn ac ail-ysgogwyd y PZPN.[5] Daeth hyn yn sgil marw Stalin ym Mawrth 1953 a cychwyn cyfnod ychydig yn llai llym.

Yn y 1950au, dathlwyd Diwrnod Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl ar 5 Mai.[6].

Cyfnod Modern

golygu
 
Stadiwm Genedlaethol Kazimierz Górski yn Warsaw - o 1 Mai, 2014, lleoliad ffeinal Cwpan Gwlad Pwyl ac o 2012 gemau catref y Tîm Cenedlaethol

Ym mis Medi 2008, ataliwyd arweinyddiaeth y PZPN gan Bwyllgor Olympaidd Gwlad Pwyl am fynd yn “[groes] i'w statudau mewn modd sarhaus ac amharchus.”[7] Flwyddyn ynghynt, gwnaeth gweinidogaeth chwaraeon Gwlad Pwyl hefyd ymgais i fynd i'r afael â llygredd o fewn y PZPN, ond cafodd ei fygwth â gwaharddiad gan FIFA, sy'n gwahardd unrhyw fath o ymyrraeth gan y llywodraeth.[8] Ar 30 Hydref 2008, daeth Grzegorz Lato yn llywydd y PZPN. Ar 26 Hydref 2012, etholwyd Zbigniew Boniek yn llywydd ar ôl ennill 61 o bleidleisiau gan 118 o gynrychiolwyr.[9]

Daeth y gymdeithas bêl-droed yn 100 mlwydd oed gyda Chwpan y Byd U-20 FIFA 2019 yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant. Yn 2019, cafodd Józef Klotz, a oedd wedi chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl ac a laddwyd yn y Ghetto Warsaw yn ystod yr Holocost, ei anrhydeddu gan y Gymdeithas.[10][11]

Ar 28 Awst 2021, etholwyd Cezary Kulesza yn arlywydd.[12]

Timau cenedlaethol

golygu
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl (dynion)
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl (merched)
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 21 Gwlad Pwyl (dynion)
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl dan 17 (menywod)

Gweler hefyd

golygu

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "History". Polish Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2015. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
  2. "ZPPN, czyli zanim powstał PZPN". Retro Futbol. 27 Mawrth 2016.
  3. Korzachenko, Yuri (12 Ionawr 2010). Колиска українського футболу [Cradle of Ukrainian football] (yn Wcreineg). Cymdeithas Bêl-droed Wcráin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 6 Mehefin 2024.
  4. Thomas Urban, “Football ‘Only for Germans’, in the Underground and in Auschwitz: Championships in Occupied Poland“, in European Football During the Second World War. Ed. M. Herzog/F. Brändle. Oxford 2018, p. 367.
  5. "Gazeta Zielonogórska. Organ KW Polskiej Zjednoczonej Partii Robotniczej R. V Nr 293 [tud. 294] (10ed rhifyn 1956). – Wyd. A – Zielonogórska Biblioteka Cyfrowa". zbc.uz.zgora.pl. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2018.
  6. Sport. Dzień PZPN. Nr 106. Nowiny Rzeszowskie. 4–5 Mai 1957. t. 3.
  7. "Administrator taking over scandal-hit Polish federation". Agence France-Presse. 29 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mai 2011.
  8. Slowikowska, Karolina (30 Medi 2008). "Polish FA suspended over corruption issues". Reuters.
  9. "Boniek becomes new head of Polish FA". Sports Illustrated. Associated Press. 26 Hydref 2012.
  10. "Poland honors national soccer player murdered in Holocaust" Israel HaYom, 11 June 2019.
  11. "Before Polish-Israeli soccer match, murdered Jewish player honored". The Jerusalem Post. 10 Mehefin 2019.
  12. "Cezary Kulesza nowym prezesem Polskiego Związku Piłki Nożnej". www.laczynaspilka.pl.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Pwyl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.