Cymdeithas Bêl-droed Gwlad yr Iâ

corff rheoli pêl-droed yng Ngwlad yr Iâ

Corff llywodraethu pêl-droed Gwlad yr Iâ yw Cymdeithas Bêl-droed Gwlad yr Iâ (Islandeg: Knattspyrnusamband Íslands, KSÍ).[2] Fe'i sefydlwyd ar 26 Mawrth 1947, ymunodd â FIFA yr un flwyddyn, ac UEFA ym 1954.[3][4] Mae'n trefnu'r gynghrair bêl-droed, Úrvalsdeild, a thîm pêl-droed cenedlaethol dynion Gwlad yr Iâ a thîm pêl-droed cenedlaethol merched Gwlad yr Iâ.[5][6][7] Mae wedi'i leoli yn Reykjavík.

Cymdeithas Bêl-droed Gwlad yr Iâ
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd26 Mawrth 1947[1]
Aelod cywllt o FIFA1947[1]
Aelod cywllt o UEFA1954
LlywyddVanda Sigurgeirsdóttir

Llwyddiannau golygu

Y llwyddiant mwyaf hyd yn hyn yw cyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2016 yn Ffrainc (yr un gystadleuaeth â Chymru lle bu iddynt guro Lloegr a chymryd rhan yng Chwpan y Byd Pêl-droed 2018 yn Rwsia.

Timau cenedlaethol golygu

 
Tîm cenedlaethol y menywod, 2012
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dynion Gwlad yr Iâ dan 17 oed
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dynion Gwlad yr Iâ dan 19 oed
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan-21 dynion Gwlad yr Iâ
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dynion Gwlad yr Iâ
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Gwlad yr Iâ
  • Tîm futsal cenedlaethol Gwlad yr Iâ

Cynghreiriau golygu

Mae'r Gymdeithas yn gyfrifol am Uwch Gynghrair Gwlad yr Iâ i ddynion a menywod.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "History" (yn Saesneg). KSÍ. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-26. Cyrchwyd 19 September 2020.
  2. "Iceland and the journey to Russia 2018: an inside perspective". Thesefootballtimes.co. 24 October 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-30. Cyrchwyd 30 October 2017.
  3. "Iceland coming in from the cold". UEFA.org. UEFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2016. Cyrchwyd 26 December 2015.
  4. "Knattspyrnusamband Íslands (KSÍ)". KSI.is. Knattspyrnusamband Íslands. Cyrchwyd 26 December 2015.
  5. "Iceland's success is no laughing matter | Reuters". In.reuters.com. 2013-10-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-07. Cyrchwyd 2013-11-15.
  6. "Iceland stars set up academy –". Uefa.com. 2003-10-07. Cyrchwyd 2013-11-15.
  7. "Scotland should look to Iceland as inspiration to arrest talent freeze | International | Sport |". STV Sport. 2012-03-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-03. Cyrchwyd 2013-11-15.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.