Cymdeithas Bêl-droed Tsiecia

Cymdeithas Bêl-droed y Weriniaeth Tsiec neu Cymdeithas Bêl-droed Tsiecia (Tsieceg: Fotbalová associace České republiky; FAČR)[1], yw corff llywodraethu pêl-droed yn y Tsiecia (gelwir hefyd yn Gweriniaeth Tsiec) sydd wedi'i lleoli ym Mhrâg. Mae'n trefnu'r cystadlaethau cynghrair lefel is yn y wlad ond mae'r Uwch Gynghrair Tsiecia (1. česká fotbalová liga) broffesiynol ac Ail Gynghrair Tsiec yn cael eu trefnu'n annibynnol) a'r Cwpan Tsiec.[2][3]

Cymdeithas Bêl-droed Tsiecia
UEFA
[[File:|200|Association crest]]
Sefydlwyd19 Hydref 1901
Aelod cywllt o FIFA1907
Aelod cywllt o UEFA1954
LlywyddNodyn:Ill
Gwefanfacr.fotbal.cz/

Fe'i sefydlwyd ym 1901 fel Český svaz footballový (ČSF) ym Mhrâg. Y gymdeithas yw'r sefydliad ymbarél ar gyfer bron i 4,000 o glybiau gyda thua 625,000 o aelodau. Ym 1954 roedd yn un o gymdeithasau sefydlu UEFA.

 
Slavia Praha yn 1903, un o'r clybiau sefydlodd y ČSF yn 1901

Mae hanes cymdeithas bêl-droed Tsiecia yn dilyn hynt a helynt statws ryngwladol y Tsieciaid fel cenedl gan gynnwys cyfnod cyn annibyniaeth, cyfnod Tsiecoslofacia, ac yn fel gwladwriaeth annibynnol Tsiecia.

Hanes o dan Awstria

golygu

Sefydlwyd y rhagflaenydd cyntaf fel Undeb Pêl-droed Bohemian ar 19 Hydref 1901 yn etholaeth Bohemia yn Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Ar 19 Hydref 1901, sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Tsiec (Tsieceg: Český svaz footballový, ČSF ) ym mwyty 'U zlaté váhy' ym Mhrâg. Yr aelodau sefydlu oedd y clybiau pêl-droed canlynol: SK Slavia, AC Sparta, SK Meteor Praha VIII, SK Union, SK Olympia Praha VII, FK Horymír, FK Malá Strana , Hradčanský SK, SK Vyšehrad , LK Česká vlajka , SK Olympiae , SK Olympiae Královské Vinohrady , AFK Karlín, SK Plzeň, FK Union Plzeň ac AC Roudnice. Y cadeirydd cyntaf oedd capten Slavia, Karel Freja. Roedd Tsiecia ar y pryd yn cael ei hadnabod fel etholaeth Bohemia ac yn ddarostyngedig i Ymerodraeth Awstria-Hwngari.

Ym 1906, derbyniwyd yr ČSF dros dro i FIFA a chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn Budapest yn erbyn Hwngari. Ym 1907, cadarnhawyd aelodaeth FIFA, ond dim ond blwyddyn yn ddiweddarach cafodd y gymdeithas ei diarddel o FIFA dan bwysau o Awstria-Hwngari, a welodd tîm genedlaethol i'r Tsieciaid fel perygl i'r Ymerodraeth a thra-arglwyddiaeth Awstria Almaenig. Efallai nad yw'n gyd-ddigwyddiad mai yn Fienna oedd cyfarfod FIFA y flwyddyn honno.[4] Ar 20 Ionawr 1912, sefydlwyd is-gymdeithas Morafia-Silesia. Ym 1916, gorfodwyd y gymdeithas i ddiddymu, ond fe'i hailsefydlwyd o dan yr un enw yn 1917.

Cyfnod Tsiecoslofacia

golygu

O 1922 i 1993, yn ystod bodolaeth gweriniaeth gyntaf Tsiecoslofacia, roedd y gymdeithas yn cael ei hadnabod fel Cymdeithas Bêl-droed Tsiecoslofacia (Tsieceg: Československá associace fotbalová; ČSAF) a rheolodd dîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecoslofacia. Ar ôl rhaniad Tsiecoslofacia cymerodd y gymdeithas yr enw Ffederasiwn Pêl-droed Bohemia-Morafia (Českomoravský fotbalový svaz; ČMFS) tan fis Mehefin 2011.

Heddiw

golygu

Yn 1990 sefydlodd Gymdeithas Bêl-droed Tsiecoslofacia dan yr enw Československá fotbalová associace, ČSFA, a rannwyd yn gymdeithas Tsiec a Slofacaidd.

Gydag rhaniad Tsiecoslofacia yn ddwy wladwriaeth annibynnol, y Weriniaeth Tsiec a Slofacia, ym 1993, sefydlwyd y gymdeithas bêl-droed Českomoravský fotbalový svaz (ČMFS), a ailenwyd yn Fotbalová associace České republiky (FAČR) ym Mehefin 2011.

Rhennir yr FAČR yn 14 o gymdeithasau rhanbarthol, lle mae dros 15,000 o dimau yn chwarae. Rhennir y cymdeithasau rhanbarthol yn sawl cymdeithas ardal. Mae cymdeithasau rhanbarthol ac ardal yn seiliedig i raddau helaeth ar ffiniau gweinyddol.

Cystadlaethau

golygu
  • Uwch Gynghrair Tsiecia - ddim o dan reolaeth y FAČR
  • Ail Gynghrair Tsiec - ddim o ran reolaeth y FAĊR
  • Cynghrair Cyntaf Merched Tsiec
  • Cwpan Tsiecia
  • Supercup Tsiecia
  • Cwpan Merched Tsiecia

Adrannau

golygu
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsiecia
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol merched y Weriniaeth Tsiec
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol merched dan 19 y Weriniaeth Tsiec
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol merched dan 17 y Weriniaeth Tsiec
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 21 oed
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 19 oed
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 18 oed
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 17 oed

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tan Mehefin 2011 enw'r ffederasiwn oedd federazione è stato Českomoravského fotbalového svazu (ČMFS), gweler yma
  2. Czech Republic Archifwyd 2018-07-17 yn y Peiriant Wayback at FIFA site
  3. Czech Republic at UEFA site
  4. "Böhmen - der geheime Europameister". Wiener Zeitung. 9 Mehefin 2021. Cyrchwyd 26 Ebrill 2023.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Tsiecia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.