Cymdeithas Ddaearyddol Rwsia
Cymdeithas ddysgedig i ddaearyddwyr yn Ffederasiwn Rwsia yw Cymdeithas Ddaearyddol Rwsia (Rwseg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).). Lleolir ei phencadlys yn St Petersburg (cynt Petrograd, Leningrad).
Math o gyfrwng | geographical society, sefydliad anllywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 6 Awst 1845 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Aelod o'r canlynol | International Geographical Union |
Pencadlys | St Petersburg, Grivtsova Lane, Novaya Square |
Gwladwriaeth | Rwsia |
Rhanbarth | St Petersburg, Sefastopol, Moscfa |
Gwefan | http://www.rgo.ru, https://www.rgo.ru/ru, https://www.rgo.ru/en |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd yn 1845 dan yr enw Cymdeithas Ddaearyddol Ymerodraeth Rwsia, dan orchymyn y Tsar Niclas I. Adeg Chwyldro Rwsia yn 1917, roedd gan y gymdeithas 11 o is-adrannau a 1,000 o aelodau. Fe'i ailenwyd yn Gymdeithas Ddaearyddol Rwsia yn 1917, yn Gymdeithas Ddaearyddol y Wladwriaeth yn 1926, ac yn Gymdeithas Ddaearyddol yr Undeb Sofietaidd yn 1938. Dychwelodd at yr enw Cymdeithas Ddaearyddol Rwsia yn 1991.[1]
Cynyddodd aelodaeth y Gymdeithas Ddaearyddol i 19,000 erbyn 1971, a buont yn danfon cynrychiolwyr i'r Gyngres Ddaearyddol Holl-Sofietaidd bob pum mlynedd. Yn y cyfnod rhwng cynnal y cyngresau, gweinyddwyd y gymdeithas gan bwyllgor gwyddonol a etholwyd gan ddirprwyon y gyngres, dan arweiniad llywydd y presidiwm. Ymhlith y llywyddion bu'r eigionegwr Yuly Shokalsky, y botanegydd a genetegydd Nikolai Vavilov, y daearyddwr a physgodegwr Lev Berg, y söolegydd Yevgeny Pavlovsky, a'r rhewlifegydd Stanislav Kalesnik. Bu'r ganolfan yn St Petersburg yn goruchwylio 15 o gymdeithasau cysylltiedig yng Ngweriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia, 14 o gymdeithasau yng ngweriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd, a rhyw 100 o is-ganghennau.[1]
Rhwng 1947 a 1991, ymgynnulliwyd nifer o gynadleddau gwyddonol gan y Gymdeithas Ddaearyddol, yn ogystal â'r Cyngresau Holl-Sofietaidd yn Leningrad, Moscfa, Kiev, Tbilisi, a dinasoedd eraill,. Trafodwyd mwy na 60,000 o erthyglau a phapurau gwyddonol dan ei hawdurdod, ac anogwyd ei haelodau i gyhoeddi ymchwil mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Cyhoeddwyd cyfnodolion academaidd gan ryw 50 o'r cymdeithasau cysylltiedig, gan gynnwys Voprosy geografi ("Problemau daearyddiaeth") a gyhoeddir ym Moscfa ers 1946. Bu'r gymdeithas hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor arbenigol i lywodraeth yr Undeb Sofietaidd ynghylch materion daearyddol a datblygiad rhanbarthol, ac yn trefnu neu yn noddi rhwng 20 a 50 o alldeithiau bob blwyddyn.[1]
Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, crebachodd aelodaeth y Gymdeithas Ddaearyddol ac erbyn 2003 dim ond rhyw fil o aelodau oedd ganddi.[1] Llywydd y gymdeithas ers 2009 yw Sergey Shoygu, Gweinidog Amddiffyn Rwsia.[2]
Cyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu- (Rwseg) Gwefan swyddogol