Daearyddiaeth
Astudiaeth wyddonol o wyneb y Ddaear yw daearyddiaeth, yn ogystal ag asturdiaeth o'i nodweddion, ei thrigolion a ffenomenâu amrywiol. Y gair Groeg am y maes hwn oedd γεωγραφία ('geograffia', sef 'disgrifiad o'r Ddaear') ac fe'i defnyddiwyd yn gyntaf gan Eratosthenes (276–194 BC). Yn grynno, rhennir y pwnc yn ddwy ran, sef: nodweddion ffisegol, naturiol (daearyddiaeth ffisegol) a daearyddiaeth ddynol.[1][2][3][4]
Mae daearyddiaeth fodern yn ddisgyblaeth eang sy'n ceisio deall gwahanol rannau o'r Ddaear (llefydd, cyfandiroedd, gwledydd), sut y daethant i fodolaeth (sy'n cynnwys elfennau o ddaeareg), ffenomenau naturiol a dynol a'r berthynas rhwng dyn a'r tir.
Canghenau DaearyddiaethGolygu
Daearyddiaeth ffisegolGolygu
Prif faes daearyddiaeth ffisegol yw gwyddor Daear. Mae'n ceisio deall y lithosffer, yr hydrosffer, yr atmosffer, y pedosffer a phatrymau fflora a ffawna (sef y bioseffer). Gellir dosbarthu daearyddiaeth ffisegol fel hyn:
Y termau arferol am Ddaearyddiaeth ffisegol yn Saesneg yw: Physical geography, geosystems a physiography.[5][6]
Daearyddiaeth ddynolGolygu
Mae daearyddiaeth ddynol yn cael ei chyfri'n un o'r 'gwyddorau cymdeithas' ac yn cynnwys astudiaeth o'r Ddaear, ei phobl a'u cymuned, eu diwylliant, economeg a sut y mae pobl yn parchu neu'n amharchu eu hamgylchedd.
Mae'n cynnwys agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd, sef yr hyn a elwir yn wyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn digwydd, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.
Daearyddwyr nodedigGolygu
- David Tannatt William Edgeworth, (1858–1934), fforiwr a daearegydd
- George Everest, (1790–1866), fforiwr
- Emrys George Bowen (1900–1983), daearyddwr
- David Brunt (1886–1965), meteorolegydd
- Syr John Houghton (g.1931, Dyserth), awdurdod ar gynhesu byd-eang; cyfarwyddwr y Swyddfa Feteorelegol (1983 - 1991)
- Kenneth Glyn Jones (1915–1995), seryddwr
CyfandiroeddGolygu
Gweler hefydGolygu
- ↑ "Geography". The American Heritage Dictionary/ of the English Language; y Bedwaredd Gyfrol. Houghton Mifflin Company. Cyrchwyd 9 Hydref 2006. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ http://web.clas.ufl.edu/users/morgans/lecture_2.prn.pdf
- ↑ "1(b). Elements of Geography". Physicalgeography.net. Cyrchwyd 2009-04-17.
- ↑ Bonnett, Alastair What is Geography? Llundain, Sage, 2008
- ↑ Fundamentals of Physical Geography, 2nd Edition, by M. Pidwirny, 2006
- ↑ Pidwirny, Michael; Jones, Scott (1999–2015). "Physical Geography".