Diddymiad yr Undeb Sofietaidd

(Ailgyfeiriad o Cwymp yr Undeb Sofietaidd)

Diddymiad strwythurau gwleidyddol ffederal a llywodraeth ganolog yr Undeb Sofietaidd (UGSS) oedd diddymiad yr Undeb Sofietaidd neu gwymp yr Undeb Sofietaidd a arweiniodd at annibyniaeth i bob un o'r bymtheg gweriniaeth Sofietaidd rhwng 11 Mawrth 1990 a 25 Rhagfyr 1991.

Diddymiad yr Undeb Sofietaidd
Enghraifft o'r canlynoldiddymu endid tiriogaethol gweinyddol, end cause Edit this on Wikidata
Mathdiddymiad, Q1228968 Edit this on Wikidata
Dyddiad26 Rhagfyr 1991 Edit this on Wikidata
AchosPerestroika, leniniaeth, declaration of state sovereignty of the russian soviet federative socialist republic, new union treaty, declaration of the ussr council of the republics regarding the establishment of the commonwealth of independent states, new political thinking, treaty on the creation of the union of soviet socialist republics edit this on wikidata
Rhagflaenwyd gandissolution of the Russian Empire Edit this on Wikidata
Olynwyd gandissolution of the Russian Federation Edit this on Wikidata
LleoliadYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr achos uniongyrchol oedd methiant yr arweinydd Sofietaidd Mikhail Gorbachev i ailfywhau economi ei wlad trwy geisio rhyddfrydoli'r Undeb Sofietaidd yn wleidyddol trwy glasnost a perestroika, er yr oedd UGSS yn wladwriaeth un-blaid gomiwnyddol.

Canlyniad ehangach y diddymiad oedd cwymp comiwnyddiaeth fel ideoleg fyd-eang rhwng 1989 a 1991 a diwedd y Rhyfel Oer. Digwyddodd y diddymiad yn sgîl Chwyldroadau 1989 a ddaeth â newidiadau gwleidyddol i nifer o wledydd y Bloc Dwyreiniol, gan gynnwys Gwlad Pwyl, Dwyrain yr Almaen, Rwmania, Hwngari, Bwlgaria, a Tsiecoslofacia. Ymhen ychydig o flynyddoedd bu diddymiad heddychlon yn Tsiecoslofacia ym 1993, a chyfres o ryfeloedd trwy'r 1990au wrth i Iwgoslafia chwalu.

Daeth i'r Undeb Sofietaidd yn gyfreithiol i ben yng Cytundebau Belovezh a arwyddwyd rhwng arweinwyr Rwsia, Belarws ac Wcráin ym mis Rhagfyr 1991. Daeth y Cytundebau yma ddad-wneud Cytundeb Creu yr Undeb Sofietaidd yn 1922. Yn sgil y Cytundebau yma daeth Ffederasiwn Rwsia yn olynydd-aelod yr Undeb Sofietaidd yn y Cenhedloedd Unedig.

Digwyddiadau'r diddymiad golygu

Gweler hefyd golygu