Agor y brif ddewislen

Rhewlifeg (sy'n air cyfansawdd: 'rhew' a 'llif' yn yr ystyr 'llifo') yw'r astudiaeth o rewlifau, a'r ffenomenau sy'n cwmpasu iâ. Mae'n un o faesydd gwyddorau daear o fewn daearyddiaeth ffisegol.

Ceir sawl rhyngddisgyblaeth o fewn i rewlifeg gan gynnwys: geoffiseg, daeareg, daearyddiaeth ffisegol, hinsoddeg, meteoroleg, hydroleg, bioleg ac ecoleg. mae effaith ac impact rhewlifau ar bobl yn cynnwys y maes daearyddiaeth ddynol ac anthropoleg. Mae darganfod iâ ar y Lloer, Mawrth, Ewropa a Phlwton yn ychwanegu'r cydran all-ddaearol i'r maes hwn a elwir yn astrorewlifeg.[1]

Feeglacier yn Saas Fee, Y Swistir

Golwg frasGolygu

Mae ymchwil i hanes rhewlifau ac ail-greu modelau ohonynt ar wahanol gyfnodau yn y gorffennol yn gymorth i ragweld y dyfodol - pa mor gyflym y byddant yn meirioli ayb. Mae'r rhan fwyaf o waith y rhewlifegwr yn digwydd yn y ddau begwn: y Gogledd a'r De, oherwydd y tymheredd isel yno. Caiff rhewlif ei greu dros gyfnod hir iawn o amser, o ganlyniad i fwrw eira; symudant yn araf, o dir uchel, mynyddoedd fel arfer, ar ffurf 'rhewlifau'r dyffrynoedd' neu gan symud o'r canol allan, ar ffurf 'rhewlifau cyfandirol'. Gelwir y math cyntaf hefyd yn 'rhew-afonydd' neu'n 'rhewlifau'r Alpau' a chreithir y tir ganddynt, gan greu geunentydd garw. Canfyddir yr ail fath, bellach, dim ond yn yr Ynys Las (Daneg: Grønland) a'r Antartig ac mae'r rhew yma'n dew: miloedd o fetrau o drwch ac arwynebedd o filoedd o gilometrau. Yn hytrach na chreithio'r tirwedd, maen nhw'n ei lyfnu.

Y 5 prif oes iâGolygu

Prif erthygl: Oes yr Iâ

Rhenir llinell amser daearegol y Ddaear yn bedair Eon: y cyntaf yw'r Eon Hadeaidd, a'i chychwyn yw ffurfio'r Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r Hen Roeg 'Hades', roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda llosgfynyddoedd byw ymhobman, ond yn araf oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y Proterosöig, daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na rhewbwynt a chafwyd haenau trwchus o rewlifau'n ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: y Rhewlifiad Hwronaidd (Huronian), y Rhewlifiad Cryogenaidd (Cryogenian), y Rhewlifiad Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw). Ar wahân i'r 5 cyfnod hyn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew ledled y Ddaear gyfan.[2][3] Credir i gapiau rhew yr Arctig a'r Antartig gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

 
Diagram yn dangos y 4 Eon (Hadeaidd, Archeaidd, Proterosöig a Ffanerosöig sef yr oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaelod ceir y 5 prif Oes Iâ.

CyfeiriadauGolygu

  1. Richard S. Williams, Jr. (1987). "Annals of Glaciology, v.9" (PDF). International Glaciological Society. p. 255. Cyrchwyd 7 Chwefror 2011.
  2. Lockwood, J.G.; van Zinderen-Bakker, E. M. (Tachwedd 1979). "The Antarctic Ice-Sheet: Regulator of Global Climates?: Review". The Geographical Journal 145 (3): 469–471. doi:10.2307/633219. JSTOR 633219.
  3. Warren, John K. (2006). Evaporites: sediments, resources and hydrocarbons. Birkhäuser. p. 289. ISBN 978-3-540-26011-0.
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: