Cymdeithas Ffederasiynau Pêl-droed Aserbaijan

cymdeithas bêl-droed Aserbaijan

Cymdeithas Ffederasiynau Pêl-droed Aserbaijan (Asereg: Azərbaycan Futbol Federasiyaları Assosiasiyası, AFFA) yw corff llywodraethol pêl-droed gweriniaeth Aserbaijan. Ffurfiwyd yr AFFA yn 1992 ac mae'n gyfrifol am oruchwilio pob agwedd o'r gêm amatur a phroseiynol yn y wlad. Mae AFFA yn gyfrifol am dîm cenedlaethol Aserbaijan a'r holl dimau eraill gan gynnwys menywod ac ieuenctid, cynghreiriau, cwpan a tîm menywod. Lleolir y pencadlys yn y brifddinas, Baku.

Cymdeithas Ffederasiynau Pêl-droed Aserbaijan
UEFA
Association crest
Sefydlwyd1992
Aelod cywllt o FIFA1994
Aelod cywllt o UEFA1994
LlywyddRovnag Abdullayev
Gwefanaffa.az
Pencadlys yr AFFA yn Baku, noder yr hen logo uwchben y drysau

Er bod Aserbaijan yn wlad ar lan y Môr Caspian, i'r dwyrain o Dwrci (sy'n siarad chwaer-iaith) ac i'r de o Rwsia a'r gogledd o Iran, mae'n rhan o UEFA, ffederasiwn cymdeithasau pêl-droed Ewrop yn ogystal â FIFA (y corff byd-eang).

Hanes golygu

Mae'r Aseriaid yn bobl Twrceg o ran iaith a Mwslim o ran crefydd, ond bu'r wlad o dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia ac yna'r Undeb Sofietaidd hyn nes cwymp yr Undeb yn 1991. Tan y flwyddyn honno, roedd Aserbaijan yn weriniaeth o fewn yr Undeb Sofietaidd ond heb statws gwlad annibynnol na thîm pêl-droed annibynnol - fel holl wledydd eraill megis Estonia, Iwcrain ac Armenia, sydd nawr yn wledydd annibynnol.

Yn dilyn cwymp yr Undeb Sofietaidd ffurfiwyd yr AFFA ar 26 Mawrth 1992, wedi i Aserbaijan ennill ei hannibyniaeth.[1] Ar 23 Chwefror 2009, datgelodd yr AFFA, ynghŷd ag Is-lywydd UEFA, Şenes Erzik, Academi Bêl-droed Azerbaijan.[2][3]

Logo Newydd golygu

Yn 2010, mabwysidodd yr AFFA arwyddlun newydd.[4] Yn ystod yr 1990au newidiodd y wlad yn raddol ac yn dameidiog oddi ar defnyddio'r wyddor Gyrilig (fel wyddor Rwsieg) i ddefnyddio'r wyddor Ladin tebyg i orgraff yr iaith Twrceg. Sylwir felly y ceir defnydd o'r ddau wyddor yn ystod dyddiau cynnar yr AFFA. Noder bod y lythyren ə unigryw yn dynodi'r sŵn 'schwa' sy'n cyfateb i'r 'y' Gymraeg.

Anghydfod gyda FIFA golygu

Derbyniodd yr AFFA ergyd gan FIFA ym mis Ebrill 2002 pan ddododd FIFA waharddiad dwy flynedd ar yr AFFA yn dilyn anghydfod rhwng y Gymdeithas a'r mwyafrif o glybiau Uwch Gynghrair Aserbaijan.[5] Bu'n rhaid dod â'r gystadleuaeth ddomestig i ben oherwydd yr anghydfod a gwrthododd y timau eu chwraewyr rhag chwarae i'r tîm cenedlaethol, gyda'r swyddogion treth yn ymchwilio i gyhuddiadau o dwyll o fewn yr AFFA.[6]

Yn 2012 etholwyd Rovnag Abdullayev fel Llywydd i'r Gymdeithas er mai ef oedd yr unig enwebiad.[7]

Cwpan Pêl-droed Menywod y Byd d-17, 2012 golygu

 
Cloc hyrwyddo ar gyfer Cwpan y Byd Merched dan-17 FIFA yn Baku

Yn 2012 cynhaldwyd Cwpan Pêl-droed Menywod o dan 17 oed FIFA yn Aserbaijan.[8] Cynhaliwyd y gemau rhwng 22 Medi - 13 Hydref 2012. Enillwyd y gystadleuaeth gan Ffrainc. Cynhaliwyd yr holl gemau mewn tair stadiwm gwahanol - dau yn ninas Baku ac un yn ninas Lankaran, ger y ffin ag Iran. Ni lwyddodd i dîm Azerbaijan fynd drwy ei rownd gyntaf. Nid oedd tîm gan Gymru yn cystadlu yn y bencampwriaeth.

Cystadlaethau golygu

 
Stampiau o Aserbaijan gyda delweddau o'r tîm cenedlaethol, i ddathlu Cwpan y Byd 2004

Mae'r AFFA yn gyfrifol am y twrnamentiau canlynol:

Pêl-droed Dynion
  • UWch Gynghrair Aserbaijan (Azeri: Topaz Premyer Liqası)
  • Adran Gyntaf Aserbaijan (Birinci Divizion); yr ail adran
  • Cwpan Aserbaijan
  • Supercup Aserbaijan
  • Cynghrair Futsal Azerbaijan
  • Cynghrair Amatur AFFA
Pêl-droed Menywod

Timau Cenedlaethol golygu

Yr AFFA sy'n gyfrifol am dimau cenedlaethol y wlad:

Dynion
Menywod

Cyfeiriadau golygu

  1. "AFFA-nın 20 İLLİK FƏALİYYƏTİNƏ "2" VERİLDİ". www.musavat.com (yn Azerbaijani). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 August 2014. Cyrchwyd 26 June 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Opening of Football Academy
  3. Opening ceremony of Azerbaijan Football Academy to take place early 2009[dolen marw]
  4. https://web.archive.org/web/20140819090833/http://www.1news.az/sport/football/20100305034304010.html
  5. "İbrahimoviç Qurbanova çatdı". futbolplusqol.com (yn Azerbaijani). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 October 2011. Cyrchwyd 1 September 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. Walker, Paul. "Relief for Wales as Uefa lifts ban on Azerbaijan". Independent.co.uk. The Independent. Cyrchwyd 1 Medi 2011.[dolen marw]
  7. "Rovnag Abdullayev re-elected AFFA president". www.uefa.com. UEFA. Cyrchwyd 26 Mehefin 2014.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2018. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2018.

Dolenni allanol golygu