Cymdeithas y Llysieuwyr
Elusen Prydeinig yw Cymdeithas y Llysieuwyr (Saesneg: Vegetarian Society), a sefydlwyd ar 30 Medi 1847 er mwyn hybu dealltwriaeth a pharch tuag at ffordd o fyw llysfwytäol.
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad elusennol, clwb ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 30 Medi 1847 ![]() |
Gweithwyr | 26, 27, 28, 29 ![]() |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://vegsoc.org ![]() |
Hanes
golyguCynhaliwyd y cyfarfod cyntaf a gofnodir o Gymdeithas y Llysieuwyr yn Northwood Villa, ysbyty llysfwytäol yn Ramsgate, Caint yn 1847. Cynhaliwyd eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf ym Manceinion y flwyddyn canlynol. Yn 1848, cyhoeddodd y gymdeithas rifyn cyntaf eu cylchgrawn, The Vegetarian.
Honnai'r gymdeithas mai hwy yw'r gymdeithas hynaf i hybu cigwrthodaeth yn fyd eang, ond mae nifer o gymdeithasau crefyddol hŷn yn y Dwyrain sydd hefyd yn hybu ymwrthod â chig, ac yn gwahardd niweidio anifeiliaid. Adnabyddwyd llysfwytawyr fel ‘Pythagoreaid’ cyn sefydliad y gymdeithas. Honnir yn aml i'r term Saesneg vegetarian gael ei greu ar 30 Medi 1847 yn eu cyfarfod cyntaf, ond mae Oxford English Dictionary yn dyfynnu dau ddefnydd cynharach, yn 1839 a 1842, ond mae yn dweud mai sefydliad y gymdeithas a oedd yn gyfrifol am ddefnydd cyffredin y gair.
Aelodau o nôd
golyguMae aelodau o nôd yn cynnwys Isaac Pitman, Mahatma Gandhi, Jorja Fox, George Bernard Shaw, Paul, Linda a Stella McCartney.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) The Vegetarian Society
- (Saesneg) The Cordon Vert School Archifwyd 2008-10-24 yn y Peiriant Wayback